Trosolwg
Mae gan Sam PhD mewn Twf Busnes, a bu’n gweithio am nifer o flynyddoedd mewn gwahanol swyddi ym myd diwydiant cyn dechrau gyrfa yn y byd academaidd. Ar hyn o bryd mae Sam yn Gydlynydd Grŵp Pwnc ar gyfer y grŵp pwnc a llwybr Entrepreneuriaeth, ac mae’n Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd yr Ysgol. Mae Sam yn canolbwyntio ar ymchwil academaidd ac addysgeg ac mae wedi cyhoeddi yn y ddau faes hyn. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn twf a pholisi BBaChau yn ogystal ag arloesedd addysgeg. Mae cydweithredu yn allweddol i rolau Sam, ac mae’n angerddol am ymgysylltu â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.