bay campus image
Dr Paul White

Dr Paul White

Athro Cyswllt, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606618

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
318
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Paul wedi treulio ei yrfa ôl-ddoethuriaeth mewn ysgolion meddygol a busnes, gyda swyddi yng Nghaerdydd, Coleg Imperial ac Abertawe. Gynt fu’n nyrs gofal dwys, ac mae'n ystyried ei hun yn ethnograffydd sydd â hyfforddiant ymchwil mewn cymdeithaseg.

Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar 'y cymdeithasol', gofodau cysylltu a rhyngweithio rhwng pobl, deunyddiau a syniadau sy'n llunio ein dealltwriaeth a'n hymddygiad yn ein bywyd bob dydd.

Mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys deunydd a ysgrifennwyd ar gyfer cynulleidfaoedd proffesiynol ac academaidd, gan roi sylw i bynciau amrywiol o ymgorfforiad, baw a chymhelliant i reolau a thechnoleg.

Meysydd Arbenigedd

  • Cymdeithaseg
  • Damcaniaeth gymdeithasol
  • Ethnograffeg
  • Astudiaethau sefydliad

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae Paul wedi cynnal ymchwil ethnograffig mewn gofal iechyd, cysylltiadau cyflogaeth, a gwyddoniaeth a thechnoleg.

Ar hyn o bryd, mae'n cynnal ymchwil sy'n gysylltiedig â gwaith, a pherthyn, cysur a diogelwch mudo.

Cydweithrediadau