Swansea Bay Campus

Yr Athro Nicholas Rich

Athro mewn Rheoli Gweithrediadau, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606317

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
331
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae’r Athro Nick Rich yn arbenigwr byd-enwog ym maes dylunio Perfformiad Uchel (ansawdd) a dylunio Sefydliadol Dibynadwy Iawn (diogelwch). Mae’n bolymath, sy’n golygu bod ganddo ddau faes arbenigedd sy’n canolbwyntio ar ei ymchwil ym meysydd gweithgynhyrchu a gwasanaethau (perfformiad uchel) a’i ymchwil gyda darparwyr iechyd a gofal, cyfleusterau niwclear a systemau cludiant.

Mae Nick wedi ysgrifennu dros 100 o gyhoeddiadau, mae’n cynghori nifer o lywodraethau, mae wedi ysgrifennu 10 llyfr, ac mae’n dal Cymrodoriaeth Japan gan gwmni moduron Toyota. Ef oedd Prif Beiriannydd Diwydiannol y Bathdy Brenhinol ar gyfer cynhyrchu medalau’r Gemau Olympaidd a Pharalympaidd (Llundain 2012).

Nick yw Cyfarwyddwr Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Reolaeth ac mae’n frwd a gweithgar o ran goruchwylio myfyrwyr yn yr ysgol ac o ran ei gydweithwyr yn yr Ysgol Feddygaeth a’r Ysgol Iechyd a Gwyddorau Dynol.

Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn goruchwylio myfyrwyr sydd â diddordeb mewn:

  • Systemau iechyd a gofal
  • Rheoli diogelwch cleifion
  • Rheoli diogelwch mewn lleoliadau critigol
  • Systemau darbodus
  • Systemau rheoli ansawdd
  • Rheoli’r gadwyn gyflenwi
  • Economi gylchol

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli diogelwch cleifion
  • Rheoli llifau gofal iechyd
  • Cynaliadwyedd arferion gwaith darbodus/o ansawdd
  • Theori systemau o’i chymhwyso at berfformiad prosesau sefydliadol ariannol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Addysgu israddedigion:

  • Gweithrediadau darbodus
  • Rheoli’r gadwyn gyflenwi
  • Rheoli gwasanaethau
  • Ymgynghoriaeth reoli
  • Safonau rheoli rhyngwladol

Addysgu ôl-raddedig:

  • Gwerth o weithrediadau
  • Cymhlethdod a Systemau Cymhleth (Gofal Iechyd Arloesol)
  • Rheoli Rhyngwladol
  • Darbodusrwydd i Beirianwyr
  • Ymchwil astudiaeth achos
  • Cyflwyno eich ymchwil
  • Cael eich cyhoeddi
Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau