Bay Campus image
Ms Corina Edwards

Ms Corina Edwards

Uwch-ddarlithydd, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513709

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
315
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Rolau cyfredol

Ysgol Reolaeth:

Uwch Ddarlithydd Entrepreneuriaeth

Arweinydd Datblygu’r Gweithlu Proffesiynol Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe

Prifysgol Abertawe:

Dirprwy Gadeirydd, Pwyllgor Cymeradwyo Rhaglenni, Prifysgol Abertawe

Mae Corina Edwards yn academydd sefydledig ym maes rheoli busnes ac mae wedi dod â’i phrofiad yn y diwydiant i’w gwaith. Treuliodd flynyddoedd lawer yn hunangyflogedig ac yn rhedeg ei busnesau ei hun cyn ymuno â’r Brifysgol. Arweiniodd hyn at ystod eang o waith gwirfoddol a chynghori gydag entrepreneuriaid ifanc a busnesau newydd yng Nghymru. Treuliodd Corina nifer o flynyddoedd hefyd fel uwch swyddog gweithredol ar gyfer asiantaeth fenter yn y DU ac yn arwain ar gontractau buddsoddi cymdeithasol Shell yng Nghymru a ledled y DU. Mae hynny’n cynnwys ei rôl fel Cyfarwyddwr Cymru Shell Livewire a Chyfarwyddwr Gwobrau Entrepreneur Ifanc y Flwyddyn y DU. Sicrhaodd fuddsoddiad sylweddol ar gyfer prosiectau, digwyddiadau a gweithgareddau yng Nghymru a’r DU.

Ar hyn o bryd, mae Corina yn Uwch Ddarlithydd yn y grŵp pwnc Entrepreneuriaeth ac Arloesi ac yn Arweinydd Datblygu’r Gweithlu Proffesiynol yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y portffolio BSc Rheoli Busnes ac fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y portffolio MSc Rheolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddi ddiddordebau ymchwil cyfredol ym meysydd addysgu entrepreneuriaeth ac addysgeg entrepreneuriaeth.

Creodd Corina y modiwlau entrepreneuriaeth cyntaf ar gyfer yr Ysgol, ac yn fwy diweddar creodd y radd sylfaen gyntaf (FdSc) gyda mynegiad BSc ar gyfer yr Ysgol Reolaeth. Mae’n aelod o sawl un o uwch-bwyllgorau’r Brifysgol, gan gynnwys y Grŵp Llywio Prentisiaethau. Mae hwn yn rhan o gyfraniad allweddol i strategaeth lefel Ysgol a Phrifysgol ac arallgyfeirio ffrydiau incwm. Mae Corina hefyd wedi gweithio ar ddilysu rhaglenni ar gyfer sefydliadau eraill.

Meysydd Arbenigedd

  • Entrepreneuriaeth
  • Cynllunio busnes
  • Dechrau busnes
  • Dysgu yn seiliedig ar waith
  • Dylunio rhaglenni gradd addysg uwch

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Israddedig ac Ôl-raddedig

  • Theori entrepreneuriaeth ac entrepreneuriaeth ymarferol
  • Cynllunio busnes
  • Dechrau busnes
  • Sgiliau cynnig syniadau a chyflwyno
  • Creadigrwydd ac arloesedd
Ymchwil Cydweithrediadau