Bay Campus image
male smiling

Yr Athro Yogesh Dwivedi

Cadair Bersonol, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602340

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
323
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Yogesh K. Dwivedi yn Athro Marchnata Digidol ac Arloesi, yn Gyfarwyddwr Sefydlu’r Ganolfan Ymchwil i Farchnadoedd Newydd (EMaRC) ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Ymchwil yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe. Mae’r Athro Dwivedi hefyd ar hyn o bryd yn Brif Olygydd yr International Journal of Information Management.

Cwblhaodd yr Athro Dwivedi ei PhD a’i MSc mewn Systemau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Brunel Llundain (DU), MSc mewn Adnoddau Genetig Planhigion yn Sefydliad Ymchwil Amaethyddol India (Delhi Newydd, India) a’i BSc (gyda Botaneg, Sŵoleg a Chemeg) ym Mhrifysgol Allahabad (Prayagraj, India).

Mae’r Athro Dwivedi wedi goruchwylio mwy nag 20 o fyfyrwyr i gwblhau eu doethuriaethau’n llwyddiannus, mae wedi archwilio mwy na 70 o draethodau doethurol mewn gwahanol sefydliadau yn Awstralia, India, Malaysia, Mauritius, Pacistan, Yr Iseldiroedd a’r DU. Fel cydnabyddiaeth o’i ymdrechion i ddarparu goruchwyliaeth gefnogol, ysgogol ac ysbrydoledig, dewiswyd yr Athro Dwivedi fel un o’r pum olaf yn y ras am wobr “2017 Outstanding Research Supervisor of the Year” fel rhan o’r gwobrau blynyddol mawr eu bri, y Times Higher Education Awards. Roedd yr enwebiad hwn yn gamp aruthrol ac yn gwbl haeddiannol, o ystyried ymrwymiad yr Athro Dwivedi i gefnogi ysgolheigion ar bob cam o’u gyrfaoedd.

Meysydd Arbenigedd

  • Busnes Digidol/Masnach Electronig
  • Llywodraeth Ddigidol/Electronig
  • Dulliau Talu Digidol/Symudol
  • Marchnata Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol
  • Technolegau Newydd ar gyfer Busnes a Rheolaeth: Deallusrwydd Artiffisial, Blockchain a’r Cyfryngau Cymdeithasol
  • Syste

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil Prif Wobrau