bay campus image

Mr Paul Davies

Uwch-ddarlithydd, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Trosolwg

Mae Paul yn Uwch-Ddarlithydd ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen yn yr Ysgol Reolaeth. Ymunodd â'r Brifysgol ar ôl gyrfa lwyddiannus 20 mlynedd o hyd mewn diwydiant lle bu'n gweithio ar lefelau uwch a gweithredol mewn meddalwedd, uwch-dechnoleg ac ymgynghoriaeth busnes ehangach.

Mae gan Paul ddull gweithredol, cynhwysol o addysgu sy'n cyfuno theori gyfoes ag ymarfer sy'n hyrwyddo datblygiad sgiliau diriaethol a chyflogadwyedd ar lefel israddedig ac ôl-raddedig. Mae wedi creu ac yn parhau i ddatblygu modiwlau mewn meysydd cyfoes cyffrous yn ymwneud â rheoli a’r maes digidol. Mae’n angerddol am addysgu; yn ddiweddar cafodd ei enwebu ddwywaith ar gyfer yr athro gorau a'r modiwl newydd gorau yn y Brifysgol.

Meysydd Arbenigedd

  • Marchnata Digidol
  • Gwerthu Strategol a Rheoli Gwerthiannau
  • Datblygu Cymwysidadu a Llwyfannau
  • Marchnata Cymdeithasol/Marchnata mewn Cymdeithas
  • Arloesi
  • Masnacheiddio technoleg a chychwyn busnesau

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar level israddedig mae Paul yn dysgu marchnata, marchnata cymdeithasol, datblygu cymwysiadau, marchnata digidol a rheoli gwerthiannau strategol. Mae'n hyrwyddo asesu dilys ac addysgeg weithredol ym mhob maes o'i addysgu ac mae'n helpu myfyrwyr i baratoi'n wirioneddol ar gyfer gyrfaoedd ym maes rheoli yn y dyfodol.

Ar lefel ôl-raddedig, Paul yw Cyfarwyddwr Rhaglen MSc marchnata arbenigol yr ysgol, sydd ar dwf. Mae hefyd yn addysgu Marchnata Digidol i'r gymuned ôl-raddedig ehangach ac yn goruchwylio traethodau hir.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau