bay campus location
female smiling

Yr Athro Sarah Nicholls

Athro, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
302
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Sarah Nicholls yn Athro yn yr Adran Fusnes yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ac yn Ddirprwy Bennaeth arni. Mae ganddi Gadair mewn Creu Lleoedd a Rheoli Cyrchfannau ac mae’n gwasanaethu fel Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i’r Economi Ymwelwyr. Cyn ymuno ag Abertawe ym mis Ebrill 2018, treuliodd Sarah 16 mlynedd ym Mhrifysgol Daleithiol Michigan, yn Adrannau Parciau, Hamdden ac Adnoddau Twristiaeth, Cynaliadwyedd Cymunedol, a Daearyddiaeth. Mae ganddi BSc mewn Daearyddiaeth o Goleg Prifysgol Llundain a’i graddau MSc a PhD mewn Gwyddorau Hamdden, Parciau a Thwristiaeth o Brifysgol A&M Texas.

Mae gwaith Sarah yn canolbwyntio ar gynllunio, datblygu a rheoli adnoddau hamdden a chyrchfannau twristiaeth, gyda’r nod yn y pen draw o ddeall a hyrwyddo rôl twristiaeth, hamdden a pharciau wrth greu cymunedau gweithgar, bywiog, gwydn a chynaliadwy. Ariannwyd ei gwaith gan amrywiaeth o asiantaethau a sefydliadau gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Ynys Môn, Travel Michigan/Michigan Economic Development Corporation, Swyddfa’r Great Lakes/Michigan Department of Environmental Quality, US National Oceanic and Atmospheric Administration, Adran Amaethyddiaeth yr Unol Daleithiau, a’r W.K. Kellogg Foundation. Yn 2013, derbyniodd wobr “Outstanding Achievement in Michigan Tourism Award gan y Llywodraethwr Rick Snyder i gydnabod ei chyfraniadau i’r diwydiant twristiaeth yn y dalaith honno.

Mae Sarah yn gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y cyrsiau BSc ac MSc mewn Rheoli Twristiaeth Rhyngwladol. Mae’n chwilio am fyfyrwyr PhD sydd â diddordeb mewn unrhyw agwedd ar barciau/hamdden/cynllunio, datblygu a rheoli twristiaeth.

Meysydd Arbenigedd

  • Cynllunio, datblygu a rheoli parciau, hamdden ac adnoddau twristiaeth
  • Twristiaeth fel strategaeth ddatblygu
  • Goblygiadau newid amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd ar gyfer parciau, hamdden ac adnoddau twristiaeth, ac ar gyfer ymddygiad hamdden/teithio

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae addysgu Sarah yn canolbwyntio ar bob agwedd ar gynllunio, datblygu a rheoli parciau, adnoddau hamdden a thwristiaeth a’r diwydiant teithio.

Ymchwil Prif Wobrau