Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun Proffil o Dr Sarah Marks

Dr Sarah Marks

Darlithydd mewn Pobl a Sefydliadau: Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymddygiad Sefydliadol, Business
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Sarah Marks yn ymchwilydd, yn ddarlithydd ac yn entrepreneur. Yn ei gwaith rhyngddisgyblaethol mae hi'n tynnu ar ei harbenigedd empirig a damcaniaethol dwfn ym meysydd sefydliadau, entrepreneuriaeth a chreu mentrau.

Mae ei diddordebau ymchwil presennol yn canolbwyntio ar ddefnyddio safbwyntiau beirniadol a chroestoriadol i archwilio o dan ba amodau y mae hunangyflogaeth, creu mentrau a gwaith amgen yn arwain at incwm cynaliadwy ar gyfer y sefydlwyr, yn enwedig y rhai hynny o gefndiroedd difreintiedig.

O fewn y cylch gorchwyl eang hwn, ceir pwyslais penodol ar yr angen i chwalu tabŵs ynghylch arian a gofyn cwestiynau anodd am rywedd, tlodi entrepreneuraidd, arian a gwerthoedd.

Mae Sarah yn angerddol am ddefnyddio dulliau ansoddol creadigol i ateb y cwestiynau pwysig hyn â'r amcan o wella canlyniadau o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle, yn enwedig wrth i ffurfiau newydd a hybrid o gyflogaeth, hunangyflogaeth ac entrepreneuriaeth gael eu mabwysiadu'n gyffredinol.

Meysydd Arbenigedd

  • Entrepreneuriaeth
  • Cynaliadwyedd busnesau bach
  • Rhywedd ac Entrepreneuriaeth
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
  • Croestoriadoldeb
  • Ôl-ffeministiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Sarah wedi addysgu'n eang ar draws meysydd rheoli a busnes, gan gynnwys modiwlau israddedig ym meysydd pŵer a sefydliadau, entrepreneuriaeth a rheoli amrywiaeth.

Ymchwil Prif Wobrau