Bay Campus
Professor Gareth Davies

Yr Athro Gareth Davies

Athro, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
303
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Gareth Davies yn Athro Cyswllt yn Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, gyda diddordebau ymchwil mewn rheoli arloesedd a datblygu economaidd rhanbarthol.

Cafodd ei secondio i gefnogi adroddiad Plethwaith Economi Wybodaeth Llywodraeth Cymru o gysylltiadau academaidd-diwydiannol, ac ers hynny mae wedi gweithio ar brosiectau ledled y byd i ddatblygu modelau trosglwyddo parciau gwyddoniaeth a thechnoleg. Yn ddiweddar, mae’r gwaith hwn wedi cynnwys gweithgarwch rhaglenni Bwa’r Iwerydd a Cymru-Iwerddon, a ariannwyd gan Interreg, i ddatblygu’r cysyniad o ddefnyddio rhwydweithiau gwybodaeth ar gyfer arloesi, sydd bellach yn cael ei addasu i’w ddefnyddio ar draws nifer o sectorau.

Mae hefyd wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau a ariannwyd gan ddiwydiant a’r llywodraeth gan ddefnyddio technolegau tarfol i bartneriaid sy’n amrywio o ficrofusnesau i gwmnïau rhyngwladol mawr, ar draws sectorau o adeiladu i ddiwydiannau creadigol. Ochr yn ochr â’i rôl academaidd, mae ganddo ddiddordebau ymarferydd, gan gynnwys yn ddiweddar gyda Bargen Ddinesig Arfordir y Rhyngrwyd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, mentrau AgorIP ac Accelerate, a ffrwd waith Endocrinoleg Atgenhedlu ac Anffrwythlondeb ar gyfer ARCH (partneriaeth iechyd ranbarthol).

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli Arloesedd
  • Systemau Arloesi Rhanbarthol
  • Rhyngweithio rhwng Prifysgol a Diwydiant
  • Datblygu Economaidd Rhanbarthol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae ei ddiddordebau’n cynnwys Rheoli Arloesedd ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys Busnes, Peirianneg a Gwyddorau Bywyd a Meddygaeth. Mae hyn yn cynnwys agweddau ar Ddatblygu Cynnyrch Newydd, Trosglwyddo Technoleg ac Arloesi Agored.

Ymchwil