bay campus image
Dr Jia Li

Dr Jia Li

Uwch-ddarlithydd, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606152

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
310
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Jia Li yn ddarlithydd mewn Busnes Rhyngwladol yn yr Ysgol Reolaeth. Enillodd ei radd Doethur mewn Rheoli ac MSc mewn Busnes Rhyngwladol a Marchnadoedd Datblygol gan Ysgol Reolaeth Prifysgol Caeredin. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y rhyngweithio rhwng sefydliadau, cwmnïau amlwladol a gwaith entrepreneuraidd mewn marchnadoedd datblygol trwy integreiddio dealltwriaeth o strategaeth, entrepreneuriaeth a busnes rhyngwladol. Hefyd mae ei ymchwil yn cynnwys ymddygiad allforio cwmnïau mewn marchnadoedd datblygol.

Mae Jia yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (FHEA). Ers ymuno â’r Ysgol Reolaeth, mae wedi dysgu cyrsiau ym maes rheoli i fyfyrwyr ar lefelau gwahanol. Mae ei ddiddordebau addysgu penodol i’w darganfod ym myd busnes rhyngwladol a strategaeth ryngwladol.

Meysydd Arbenigedd

  • Busnes rhyngwladol
  • Marchnadoedd datblygol
  • Ymddygiadau allforio
  • Entrepreneuriaeth
  • Strategaeth fyd-eang
  • Damcaniaeth sefydliadol