bay campus landscape
Professor Louisa Huxtable-Thomas

Yr Athro Louisa Huxtable-Thomas

Athro, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Canolradd
325
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Louisa yn Athro Cysylltiol yn yr Ysgol Reolaeth ac yn arwain ar ymgysylltu ac effaith, yn ogystal â chydlynu ein darpariaeth Addysg Weithredol. Hi hefyd yw arweinydd Menter, Partneriaethau ac Arloesi Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Gan gyfuno damcaniaethau a gwybodaeth empirig a geir o feysydd busnes, gwyddor gymdeithasol, addysg a seicoleg, mae diddordebau ymchwil Louisa yn ymwneud â sut mae ymddygiadau pobl, naill ai fel arweinwyr, entrepreneuriaid neu lunwyr polisi, yn dylanwadu ar les economaidd a chymdeithasol. Mae ganddi ddiddordeb brwd felly yng nghysyniadau tegwch a rôl amrywiaeth a chynhwysiant yn y gweithle. Cafodd ei phenodi'n gyd-gadeirydd grŵp Mary Williams y Brifysgol yn 2022.

Roedd gyrfa gynnar Louisa yn un amrywiol a oedd yn cynnwys gwaith ym maes ymgynghori amgylcheddol, llunio polisi ar lefel Ranbarthol a Llywodraeth Leol yn ogystal â chymorth a deori busnes. Daeth ymchwil ddoethurol Louisa â'r holl wybodaeth flaenorol hon ynghyd a nododd ffyrdd y gall busnesau gyfrannu’n llwyddiannus at lunio polisïau amgylcheddol.  Ar ôl cwblhau ei PhD yn 2009, symudodd diddordeb ymchwil Louisa fwyfwy tuag at fusnes a rheolaeth, yn hytrach na pholisi amgylcheddol, ond bob amser ochr yn ochr â phrosiectau ymarferol a weithiodd yn uniongyrchol i gynorthwyo economi Cymru.  Mae Louisa wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi busnesau drwy brosiectau fel deori, arloesi a masnacheiddio yn ogystal â chyfnod cynnar ymchwil a datblygu. Heb gyfyngu ei hun i faes entrepreneuriaeth yn unig, mae Louisa hefyd wedi gweithio gydag academyddion mewn meysydd mor amrywiol â gofal iechyd, e-farchnata, addysg, ynni carbon isel, systemau gwybodaeth, gweithgynhyrchu a thwristiaeth. Yn ddiweddaraf, mae wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yng  Ngweinyddiaeth Datblygu Entrepreneuriaid a Chwmnïau Cydweithredol Malaysia gan ysgogi masnach ar draws ffiniau a pherthnasoedd rhyngwladol.

Meysydd Arbenigedd

  • Entrepreneuriaeth
  • Arweinyddiaeth
  • Arweinyddiaeth entrepreneuraidd
  • Systemau arloesi
  • Cydweithio
  • Nodweddion ymarferol (affordances)
  • Addysgeg
  • Addysg uwch

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Wrth addysgu mae Louisa yn canolbwyntio ar entrepreneuriaeth, rheoli busnesau bach, arweinyddiaeth a strategaeth. Mae Louisa yn gyfrifol am ddylunio ac addysgu'r modiwl rhagarweiniol ar gyfer entrepreneuriaeth, sydd ar gael i bob myfyriwr yn Abertawe. Mae ei diddordebau addysgu hefyd yn ymestyn i rôl dysgu gan gymheiriaid mewn ymchwil ôl-raddedig.

Ymchwil Cydweithrediadau