Trosolwg
Mae Tegwen yn ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth sy’n canolbwyntio ar Reoli Safonau a Gweithrediadau Rhyngwladol.
Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn arloesi ac ymchwil, yn enwedig ym maes natur. Am y rheswm hynny mae hi’n frwdfrydig iawn am faes biomimeteg. Bu'n ymwneud ag amrywiaeth eclectig o ddatblygiadau prototeip, yn deillio yn aml o ddadansoddi canlyniadau labordy esblygiadol byd natur dros filiynau o flynyddoedd (gan gynnwys yn y sector gwyddor bywyd). Mae nifer o elfennau gwahanol i'r gwaith hwn, megis arfwisg dryloyw a chynaeafu dŵr sy’n deillio o ymchwil a datblygu (sy'n cynnwys darganfod, gwerthuso ac asesu syniadau yn arloesi a dylunio cynnyrch) o’r camau cyntaf i fasnacheiddio gan gwmnïau. Mae ei gwaith wedi ymwneud â llunio, mapio a chostio dyluniad y prosesau sy'n ofynnol wrth fynd â chynnyrch i'r farchnad, yn enwedig syniadau sy’n torri tir newydd.
Mae Tegwen wedi llwyddo i gyfuno diddordebau academaidd yn y gwyddorau a disgyblaethau rheoli. Er enghraifft, mae hi wedi gwneud gwaith ymchwil ym maes oncoleg ynghyd ag ennill blynyddoedd lawer o brofiad o reoli prosiectau cymhwysol.