Golwg o Gampws Bae o’r awyr , gyda’r môr yn ymestyn i’r gorwel
Llun proffil o Dr Guoqing Zhao

Dr Guoqing Zhao

Darlithydd mewn Rheoli Gweithrediadau, Business

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Dr Guoqing Zhao yn Ddarlithydd Rheoli Gweithrediadau.  Mae ymchwil Guoqing yn canolbwyntio ar feysydd rheoli risg mewn perthynas â'r gadwyn gyflenwi, gwytnwch y gadwyn gyflenwi, rheoli gwybodaeth a thechnolegau diwydiant 4.0 a'r goblygiadau cysylltiedig o ran y gadwyn gyflenwi.  Mae ei waith wedi'i gyhoeddi mewn cyfnodolion o fri gan gynnwys Computers in Industry, IEEE Transactions on Engineering Management, International Journal of Production Research, Production Planning & Control, International Journal of Entrepreneurial & Behavior Research, International Journal of Hospitality Management, International Food and Agribusiness Management Review, ymhlith eraill.

Mae Dr Guoqing wedi derbyn gwobrau am ddyfyniadau niferus, gwobr presenoldeb mewn cynadleddau, grant Micro-Media, gwobr Llywodraeth Tsieina a gwobr Papur Gorau.

Ar hyn o bryd, mae Dr Guoqing yn gweithredu fel cadeirydd llwybr Symposiwm Rhyngwladol IEEE ar Dechnoleg a Chymdeithas     (ISTAS23), Llwybr 8: Systemau Deallus a Chadwyni Cyflenwi ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a phwyllgor rhaglenni’r  Gynhadledd Ryngwladol ar Dechnoleg Systemau Cymorth Penderfyniadau (2023)

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli Risgiau'r Gadwyn Gyflenwi
  • Gwytnwch y Gadwyn Gyflenwi
  • Rheoli Gwybodaeth
  • Dadansoddi Data Ansoddol/Meintiol
  • Ymchwil drawsddisgyblaethol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae Dr Guoqing Zhao wedi gweithio ar sawl prosiect wedi'i ariannu, gan gynnwys prosiect RUC-APS Horizon yr UE 2020 (https://ruc-aps.eu/), prosiect EPIC wedi'i ariannu  gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (https://epicehealth.co.uk/), prosiect wedi'i ariannu gan British Council y DU a phrosiect wedi'i ariannu gan Gymdeithas Frenhinol y DU.  Felly, cafodd Guoqing gyfleoedd i ymweld â gwledydd gwahanol ar draws Asia, Ewrop a De America i archwilio problemau mewn perthynas â dolenni cyflenwi bwyd-amaeth.

Prif Wobrau Cydweithrediadau