Bay Campus image
Dr Simon Brooks

Dr Simon Brooks

Athro Cyswllt, Management School

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Ysgolhaig rhyngddisgyblaethol yw Dr Simon Brooks sy'n gweithio ar draws llawer o feysydd gan gynnwys hanes, hanes syniadau, amlddiwylliannedd, theori wleidyddol a pholisi cyhoeddus. Mae ganddo ddiddordeb hefyd mewn cynllunio iaith.

Mae ei fonograff arloesol, Pam na fu Cymru (2015), yn dadlau y gellir priodoli cwymp yr iaith Gymraeg yng Nghymru’r 19eg ganrif, a pheidio â datblygu mudiad cenedlaethol sylweddol, i gryfder cyffredinolrwydd rhyddfrydol yng Nghymru bryd hynny.

Yn 2018, cyhoeddodd astudiaeth hunanethnograffig o gymuned Gymraeg ei hiaith yng ngogledd-orllewin Cymru, sef Adra (Cartref).

Caiff ei lyfr diweddaraf, sef Hanes Cymry, ei gyhoeddi eleni a hwn fydd hanes cyffredinol cyntaf lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ar ffurf llyfr.

Cyn hyn, cyhoeddodd Dr Brooks fonograff ar yr Oleuedigaeth, a chyd-olygodd gyfrol o draethodau ar gynllunio iaith.

Ef yw Golygydd Cyffredinol Gwasg Prifysgol Cymru  ar gyfer cyfres o fywgraffiadau deallusol, sef Dawn Dweud.

Penodwyd Dr Brooks i gynghori Llywodraeth Cymru fel aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Ar hyn o bryd mae’n cadeirio Grŵp y Cyngor ar y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned yn dilyn argyfwng Covid-19.

Mae’n aelod o Academi Morgan y Brifysgol.

Meysydd Arbenigedd

  • Hanes Cymru ar ôl yr Oleuedigaeth
  • Amlddiwylliannedd yng Nghymru
  • Cynllunio iaith
  • Hanes syniadau
  • Hanes y diaspora Cymreig yn Lloegr
  • Damcaniaeth wleidyddol yng Nghymru
  • Llenyddiaeth Gymraeg, yn enwedig moderniaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Ar hyn o bryd mae Dr Simon Brooks yn cynnal prosiect ymchwil sy'n cymharu polisi cyhoeddus ar ail gartrefi yng Nghymru a Chernyw fel rhan o'i ddiddordeb mewn cynllunio iaith.

Prif Wobrau