Swansea Bay Campus
Ms Sarah Owens

Ms Sarah Owens

Uwch-ddarlithydd, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606864

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
307
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Mae gan Sarah gyfoeth o brofiad o fyd diwydiant, ac mae wedi gweithio mewn swyddi rheoli marchnata gyda llawer o’r prif frandiau, gan gynnwys Hoover, Disney, a Proctor a Gamble ymhlith eraill. Aeth ymlaen wedyn i sefydlu ei chwmni ymgynghori llwyddiannus ei hun, gan gynorthwyo busnesau i sicrhau twf strategol. Teithiodd Sarah yn helaeth yn y rôl hon, gan gynnwys i’r Dwyrain Pell, Awstralia, America ac Ewrop, i gynorthwyo cwmnïau i ehangu eu marchnad ryngwladol.

Mae ganddi gymwysterau proffesiynol gyda’r Sefydliad Marchnata Siartredig, ac aeth ymlaen i ennill ei MBA. Ers hynny, mae Sarah wedi cymhwyso ar lefel rhagoriaeth yn ei chymwysterau addysgu addysg uwch. Mae ganddi 12 mlynedd o brofiad darlithio, a phrofiad sylweddol o addysgu myfyrwyr rhyngwladol ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig.

Mae Sarah yn dysgu amrywiaeth o feysydd pwnc ôl-raddedig ac israddedig, yn cynnwys marchnata a strategaeth yn ogystal â modiwlau sy’n cysylltu â phrosiectau diwydiant.

Mae’n angerddol am ddatblygu amgylchedd dysgu rhyngweithiol ac ymgysylltiol lle gall myfyrwyr symud ymlaen i’w llawn botensial.

Ynghyd â thîm ymchwil bach, mae wedi chwarae rôl allweddol wrth arloesi’r defnydd o werslyfrau digidol rhyngweithiol i ddatblygu amgylchedd dysgu mwy diddorol, blaengar a chyfoes.

Ar hyn o bryd, Sarah yw Arweinydd Ymgysylltu â Myfyrwyr Academaidd yr Ysgol Reolaeth ac felly mae’n gweithio’n agos iawn gyda gwasanaethau proffesiynol a’r corff myfyrwyr i ddatblygu cymuned ffyniannus ar gyfer gwaith, chwarae, astudio a byw.

Meysydd Arbenigedd

  • Rheoli Marchnata
  • Cynllunio Marchnatat Strategol
  • Strategaeth
  • Dysgu digidol
  • Lleoliadau / ymchwil gyda diwydiant
  • Ymgynghori
  • Ymgysylltu â myfyrwyr
  • Cyfathrebu