bay campus location
Yr Athro Paul Jones

Yr Athro Paul Jones

Athro mewn Entrepreneuriaeth ac Arloesi, Business

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
312
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Yr Athro Paul Jones yw Pennaeth yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hefyd yn Athro Entrepreneuriaeth ac Arloesedd. Yn flaenorol, bu’r Athro Jones yn Bennaeth yr Adran Fusnes yn yr Ysgol. Yn y gorffennol, bu gan yr Athro Jones swyddi academaidd ym Mhrifysgol Coventry, Prifysgol Plymouth a Phrifysgol De Cymru. Mae’n rheolwr ac ymchwilydd academaidd profiadol ac ar hyn o bryd mae’n Brif Olygydd The International Journal of Entrepreneurial Behaviour and Research, yn Uwch Olygydd Information Technology and People, ac yn Olygydd Cysylltiol The International Journal of Management Education. Mae hefyd yn Olygydd y Gyfres Llyfrau Emerald o’r enw Contemporary Issues in Entrepreneurship Research.

Yn ogystal, mae’r Athro Jones yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ac yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolwyr y Sefydliad Busnesau Bach ac Entrepreneuriaeth (ISBE). Mae’r Athro Jones yn gwneud ymchwil ym maes rheoli busnesau bach ac ymddygiad entrepreneuraidd. Hyd yn hyn yn ei yrfa, mae’r Athro Jones wedi goruchwylio 17 o fyfyrwyr doethuriaeth hyd at gwblhau, ac wedi arholi dros 50 o ymgeiswyr yn Ewrop, Affrica, Asia ac Awstralia. Ar hyn o bryd, mae’n chwilio am geisiadau gan ymgeiswyr doethuriaeth ym meysydd entrepreneuriaeth a rheoli busnesau bach. Mae ganddo ddiddordeb mewn ymchwil sy’n archwilio ymddygiad entrepreneuraidd a phob agwedd ar reoli busnesau bach. Yn ystod ei yrfa academaidd hyd yma, mae wedi cynhyrchu dros £1.5 miliwn mewn incwm grant allanol. Mae hyn wedi cynnwys prosiectau entrepreneuriaeth â llywodraeth Nigeria, sicrhau cyllid gan y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, grantiau gan yr Academi Addysg Uwch, a chyllid gan y Cyngor Prydeinig a’r Cronfeydd Datblygu Gwybodaeth gyda Llywodraeth Cymru.

Meysydd Arbenigedd

  • Entrepreneuriaeth
  • Addysg Fenter
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Rheoli Busnesau Bach

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae'r Athro Jones yn dysgu ar lefel israddedig ac ôl-raddedig ym meysydd rheoli busnesau bach ac entrepreneuriaeth.

Ymchwil Prif Wobrau