Bay Campus location
Jossy Mathew headshot

Dr Jossy Mathew

Uwch-ddarlithydd mewn Pobl a Sefydliadau: Rheoli Adnoddau Dynol (HRM) ac Ymddygiad Sefydliadau, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513010

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Jossy'n ymchwilydd brwdfrydig sy'n rhan o brosiectau ymchwil sy'n torri tir newydd mewn Rheoli Adnoddau Dynol (HRM, Rheoli Adnoddau Dynol yn Rhyngwladol (IHRM) a meysydd cysylltiedig.

Diddordebau ymchwil presennol Jossy yw tensiynau HRM a dulliau ymdopi cwmnïau twf cyflym, sefydliadau prosiect a chwmnïau gwybodaeth ddwys.  Mae ddiddordeb brwd gan Jossy hefyd mewn materion HRM mewn economïau datblygedig, gerllaw diwylliant sefydliadol, effeithiolrwydd sefydliadol ac alltudiaeth.

Mae Jossy wedi cyhoeddi papurau yn Human Resource Management Journal, Journal of World Business, European Management Review, International Journal of Human Resource management, Employee Relations a Journal of Gender Mobility. Mae ganddo sawl papur ar y gweill ar gyfer cyfnodolion blaenllaw ar faterion HRM cyfoes.

Mae wedi bod yn cydweithio ag academyddion blaenllaw yn y maes i gryfhau ac amrywiaethu gwaith ymchwil. 

Mae wedi sicrhau grantiau gan yr ESRC a Chyngor India ar gyfer Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol (ICSSR), gerllaw sawl un mewn prifysgolion gwahanol. Mae Jossy yn y broses o ddatblygu sawl cais am grant i ddatblygu ei ymchwil.

Mae gan Jossy PhD o Brifysgol Caerdydd ac wedi derbyn sawl gwobr am ragoriaeth academaidd gan gynnwys Ysgoloriaeth nodedig Caerdydd am ddilyn astudiaethau doethurol a Chymrawd Ymchwil Iau gan Gomisiwn Grantiau Prifysgolion, Llywodraeth India.

Mae Jossy wedi ymgymryd â phrosiectau ymgynghori ar gyfer y diwydiant ar sawl maes HRM megis rheoli perfformiad, asesu gallu, canolfannau asesu a datblygu a pholisi cyflogau.  Mae hefyd wedi cynnal rhaglenni datblygu rheolaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol y diwydiant ar sawl maes yn HRM a rheoli cyffredinol. 

Meysydd Arbenigedd

  • Materion HRM mewn economïau datblygedig
  • Tensiynau HRM a dulliau ymdopi mewn cwmnïau twf cyflym
  • Tensiynau HRM a dulliau ymdopi mewn sefydliadau prosiect
  • Tensiynau HRM a dulliau ymdopi mewn cwmnïau gwybodaeth ddwys
  • Diwylliant sefydliadol
  • Alltudiaeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

 

  1. Rheoli Adnoddau Dynol yn Rhyngwladol
  2. Rheoli Adnoddau Dynol yn Strategol
  3. Arferion HRM
  4. Rheoli Perfformiad
  5. Dyluniad sefydliad
  6. Datblygiad sefydliadol
  7. Diwylliant sefydliadol
  8. Ymddygiad Sefydliadau
Prif Wobrau Cydweithrediadau