bay campus image
female

Dr Anita Zhao

Athro Cyswllt, Business

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 295578

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
305
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cafodd Anita ei phenodi'n Arweinydd y Grŵp Pwnc Marchnata rhwng 2017 a 2022. Cwblhaodd ei PhD yn Ysgol Busnes Prifysgol Swydd Gaerloyw. Cyn ei rôl academaidd, cafodd Anita brofiad sylweddol o’r diwydiant ar draws y sector cyhoeddus a'r sector preifat e.e. y diwydiant awyrennau, twristiaeth ac allforio yn Tsieina.

Mae hi'n frwd dros weithio ar y cyd gyda chydweithwyr sydd â diddordebau tebyg, yn rhyngddisgyblaethol neu'n drawsddisgyblaethol. Gan weithio gyda'r Athro Morgan et al., dyfarnwyd prosiect iddi gynnal Asesiad Effaith Twristiaeth gan Gyngor Sir Ynys Môn a rhannodd o'i harbenigedd i gefnogi'r Cyngor yn y prosiect adeiladu gorsaf niwclear newydd, Wylfa Newydd (grant gwerth: £46,061.58, Prif Ymchwilydd ar y Cyd).

Prosiect arall, a ddyfarnwyd gan Brifysgol Abertawe, (Pontio'r Bwlch: Escalator, BTGE090, gyda Dr Koenig-Lewis, Dr Xuan a Dr Probert, gwerth £7,190.60, CI) sy'n canolbwyntio ar ganfod rôl ymddygiad defnyddwyr wrth (ail-)lunio modelau busnes cyfleustodau dŵr y dyfodol o ganlyniad i effaith newid yn yr hinsawdd.

Enillodd un o'i phapurau wobr Papur Gorau y ‘Political Marketing Track Prize' a noddwyd gan Wiley yng nghynhadledd yr Academi Farchnata 2013 (gyda Dermody et al.).

Mae Anita yn  Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch ((SFHEA). Mae ei phrofiad addysgu a’i harweinyddiaeth wedi derbyn cydnabyddiaeth gan y gymuned.

Yn ddiweddar, dyfarnwyd grant ymchwil bach BA/Leverhulme i Anita! Bydd ei phrosiect, ““Pam aros? Prynu Nawr Tâlu Wedyn”: Ymchwilio i Effaith Taliadau Di-arian wedi'u Gohirio ar Ddefnyddwyr Prydeinig Iau", yn rhedeg tan 2023. Mae'r prosiect mewn cydweithrediad â'r Dr. Philippa Ward, Prifysgol Swydd Gaerloyw.

Nod y prosiect yw datblygu dealltwriaeth o sut mae'r defnydd o 'Brynu nawr, talu wedyn' yn effeithio ar y defnyddiwr Prydeinig iau, yr hyn maent yn ei brynu, a'u lles. 

Mae hi hefyd wedi ei hethol am Wobr Rhagoriaeth mewn Addysgu a Dysgu Prifysgol Abertawe 2022. Mae hi'n ddiolchgar iawn am y gydnabyddiaeth ac yn awyddus i gefnogi myfyrwyr a'u haddysg yn barhaus. Mae gallu eu gweld nhw'n rhagori yn broses sydd mor werth chweil! 

Meysydd Arbenigedd

  • Cyfuno a chaffael banciau
  • Rheoleiddio bancio
  • Argyfwng bancio ac ymyrraeth reoleiddiol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Anita yn addysgu modiwlau israddedig ac ôl-raddedig mewn marchnata. Dyma enghreifftiau: -

  • Ymddygiad Defnyddwyr
  • Ymchwil Marchnata
  • Cyfathrebu Marchnata
  • Traethawd

Llwyddodd Anita i ennill Uwch Gymrodoriaeth Academi Addysg Uwch (SFHEA) yn 2019. Mae ganddi lawer o brofiad fel cyfarwyddwr rhaglen, Arweinydd Grŵp Pwnc, arholwr, ymhlith rolau a dyletswyddau eraill.

Mae hi hefyd yn awyddus i ddefnyddio technoleg yn ei haddysgu. Er enghraifft, mae hi wedi llwyddo i sicrhau grant bach a ddyfarnwyd gan Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe yn 2011 ar gyfer “Using marketing simulations to enhance student engagement and experience” (PI, gyda Dr Koenig-Lewis, £1,772.17).

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau