Deall Cynaliadwyedd Rhyngwladol a rôl defnyddwyr

Rydym yn dysgu am gynaliadwyedd a rôl defnyddwyr

Rydym yn dysgu am gynaliadwyedd a rôl defnyddwyr

Yr Her

A all defnyddwyr unigol chwarae rôl fwy dylanwadol wrth gefnogi cynaliadwyedd yn agenda ryngwladol y newid yn yr hinsawdd?

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn byw mewn cymdeithas o dan ddylanwad prynwriaeth a materiolaeth. Fodd bynnag, er y bydd llawer o ddefnyddwyr yn ymwybodol o faterion sy’n gysylltiedig â chynaliadwyedd, ni fydd eu hagweddau na’u patrymau o ymddygiad defnyddio bob amser yn cyd-fynd â’i gilydd.

Y Dull 

Pwnc byd-eang yw cynaliadwyedd sy’n gofyn am drylwyredd a chreadigedd wrth ddylunio ymchwil. Cyfunodd Dr Anita Zhao ddulliau meintiol ac ansoddol i ddatblygu ffyrdd newydd o ddirnad rôl y defnyddiwr er mwyn deall cynaliadwyedd rhyngwladol. Drwy gasglu data ar faterion sy’n gysylltiedig ag ymddygiad cynaliadwy yn y marchnadoedd rhyngwladol gan gynnwys Ewrop a Tsieina, roedd Anita yn gallu ymchwilio i ddata hynod o berthnasol a oedd yn adlewyrchu cefndiroedd, marchnadoedd a phenderfyniadau diwylliannol gwahanol. Mae dirnadaeth o’r fath wedi bod yn allweddol i ddeall defnyddwyr ac effaith eu penderfyniadau defnyddio ar gynaliadwyedd ar draws cefndiroedd a marchnadoedd diwylliannol gwahanol.

Wrth gydweithredu ag academyddion ac arbenigwyr blaenllaw yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae ymchwil Dr Zhao wedi arwain at ragor o wybodaeth a fydd yn gwella’n dealltwriaeth o gynaliadwyedd ar draws marchnadoedd, rhanbarthau a chenhedloedd.

Yr Effaith 

Yn sgîl ymchwil Dr Zhao, canfuwyd y gall marchnata chwarae rôl bwysicach wrth gyfrannu at agenda defnydd cynaliadwy. Mae gan y dasg o wella ein dealltwriaeth bresennol o ddefnydd cynaliadwy oblygiadau pwysig ar gyfer marchnatwyr (o ran cynnyrch, arferion a gwasanaethau gwyrdd a gynigir) ond hefyd ar gyfer llunwyr polisi drwy ddeddfwriaeth a rheoleiddio priodol. Yn ychwanegol, mae hyn yn dangos nad yw mynd i’r afael â chynaliadwyedd yn perthyn i agenda fyd-eang cenhedloedd, byd llywodraeth a busnesau’n unig ond hefyd i unigolion yn y gymdeithas.

Mae ymchwil Dr Zhao sy’n ymdrin â rôl defnyddwyr unigol ym maes cynaliadwyedd rhyngwladol wedi cael ei rhannu â sefydliadau academaidd a busnes fel ei gilydd. Mae hi wedi cyhoeddi yn y cylchgronau canlynol: Journal Marketing Management, Journal of Business Research, Journal of Consumer Behaviour a’r Journal of Macromarketing.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
CLimate change UNSDG
Nod Cynaliadwy y CU - Bywyd ar y Tir

Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig (CU)

Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
Eicon dyfodol cynaliadwy