Ffordd newydd o reoli pryfed sy'n blâu

Rydym ni’n rheoli plâu

Rydym ni’n rheoli plâu

Yr Her

Mae newidiadau byd-eang ym mhoblogaethau pryfed yn adlewyrchu effaith dynolryw ar yr amgylchedd. Mae ffactorau megis newid yn yr hinsawdd, amaethyddiaeth ddwys a masnach fyd-eang wedi effeithio'n niweidiol ar lawer o rywogaethau pryfed buddiol gan ganiatáu i rywogaethau sy'n blâu ledaenu. Gall rhai rhywogaethau plâu gael effeithiau enfawr ar gynhyrchu cnydau, ac mae eraill yn trosglwyddo afiechydon sy'n effeithio ar bobl.

Un broblem benodol yw defnyddio plaladdwyr cemegol, nad ydynt yn gwahaniaethu rhwng pryfed buddiol, megis pryfed peillio a'r rhywogaeth sy'n bla maent yn ei thargedu. Ymateb callach fyddai dyfeisio strategaeth reoli sy'n effeithio ar y pla a dargedir yn unig, heb effeithio ar bryfed da megis gwenyn.

Y Dull

Mae gan bob rhywogaeth pryfed ei mricrofiome ei hun yn ei pherfeddyn. Mae rhai bacteria wedi esgblygu ar y cyd â'u pryfed lletyol am filoedd o flynyddoedd er mwyn ffurfio perthynas symbiotig. Er enghraifft, mae angen bacteria symbiotig unigryw ar bryfed sy'n bwydo ar waed neu sudd er mwyn darparu iddynt y maetholion nad ydynt ar gael yn eu diet arbenigol. Yn eu tro, gall y bacteria ffynnu drwy ddefnyddio'r maetholion sy'n cael eu 'rhoi' iddynt gan eu pryfed lletyol.

Bee on yellow flower
Mosquito on blue background

Yr Effaith

Mae'r athro Dyson wedi datblygu technoleg sy'n galluogi'r bacteria symbiotig hyn i gludo gwybodaeth a fydd yn tawelu genynnau penodol yn eu pryfyn lletyol.

Er enghraifft, rydym wedi defnyddio'r dechnoleg fel ffordd o atal cenhedlu mewn pryfyn sy'n bwydo ar waed, y 'pryfyn cusanu' sy'n lledaenu clefyd Chagas' sy'n angheuol i boblogaethau dynol yn ne a chanolbarth America. Fel hyn, ni fydd pryfed benywaidd yn gallu cynhyrchu wyau hyfyw mwyach a chaiff y bacteria eu lledaenu drwy'r gytref o bryfed, ond maent yn effeithio ar y rhywogaeth darged yn unig.

Mae'r dechnoleg yn cynnig gallu i dargedu rhywogaeth benodol ar ddwy lefel, oherwydd natur yr wybodaeth a gynhyrchir gan y bacteria a gallu'r bacteria i gytrefu'r rhywogaeth letyol yn unig.

Gellir defnyddio'r dechnoleg hefyd i amddiffyn pryfed buddiol. Mae gwyddonwyr yn UDA wedi ei defnyddio'n ddiweddar i ddiogelu gwenyn mêl rhag gwiddon sy'n meddiannu eu cychod ac yn lledaenu firws sy'n effeithio ar wenyn.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
CLimate change UNSDG
Nod Cynaliadwy y CU - Bywyd ar y Tir

Hoffech chi gydweithredu?

Cysylltwch â ni i ddysgu sut gallwch gydweithredu â ni

Bee on pink flower
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe