Twristiaeth Gynaliadwy mewn Parciau Cenedlaethol

Rydym yn gwneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy

Image of Poppit Sands in Pembrokeshire

Twristiaeth Gynaliadwy mewn Parciau Cenedlaethol

Y Her

Mae twristiaeth wedi dod yn un o'r diwydiannau mwyaf yn y byd, gan gyflogi mwy na 10% o boblogaeth y byd cyn pandemig COVID-19. Mae twristiaeth yn cynnwys teithio ar gyfer busnes a hamdden, a phrif nod teithiau hamdden yw ymweld ag atyniadau a chymryd rhan mewn digwyddiadau. Er gwaethaf y buddion economaidd sylweddol sy'n gysylltiedig ag ymwelwyr sy'n gwario arian, mae twristiaeth yn cael ei chysylltu'n fwyfwy ag effeithiau negyddol ar amgylcheddau a chymunedau'r cyrchfannau. Mae hyn yn enwedig o wir o ran gweithgareddau mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd gwarchodedig eraill, lle mae defnyddio'r rhain yn ormodol yn gallu achosi niwed amrywiol gan gynnwys gorlwytho'r isadeiledd lleol, amharu ar breswylwyr lleol a bywyd gwyllt, niwed i ecosystemau sy’n gallu bod yn sensitif, gwrthdaro â defnyddwyr eraill a lefelau boddhad ymwelwyr is.

Image of Caldey Island

Y Dull

Yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro wedi gweld nifer cynyddol o ddigwyddiadau awyr agored mawr wedi'u trefnu yn eu hardal. Yn sgîl eu cylch gorchwyl, sef bod yn geidwaid i adnoddau naturiol a diwylliannol a'u gwella wrth hybu cyfleoedd i'r cyhoedd eu defnyddio ar yr un pryd, mae'r Awdurdod yn awyddus i ddeall nifer, math, amseru a lleoli'r digwyddiadau hyn yn well - a'u rheoli'n well yn y pen draw. Mae datblygu proses monitro digwyddiadau sy'n hawdd i drefnwyr ymgysylltu â hi, ond eto sy'n effeithiol wrth liniaru effeithiau niweidiol hefyd, wedi cynnwys ymgynghori'n helaeth ag ystod yr unigolion a'r cyrff sy'n rhan o'r digwyddiadau ac sy'n cael eu heffeithio ganddynt, gan ddefnyddio cymysgedd o arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws.  

Yr Effaith

Bydd datblygu proses rheoli digwyddiadau effeithiol yn galluogi'r Awdurdod - ac ardaloedd gwarchodedig eraill ledled y DU a thu hwnt - i ddiwallu'n well eu cenhadaeth o hwyluso profiadau dymunol a diogel ar gyfer yr holl ddefnyddwyr wrth gynnal a chadw rhinweddau arbennig y tiroedd gwarchodedig ar yr un pryd. Mae nodi a gweithredu strategaethau cynllunio, datblygu a rheoli twristiaeth mwy effeithiol - strategaethau sy'n dathlu nodweddion naturiol a diwylliannol unigryw cyrchfannau ac sy'n gwreiddio ymagweddau at dwf twristiaeth cyfrifol yn yr agenda ehangach i hybu cyrchfannau - yn hanfodol wrth harneisio nerth twristiaeth i helpu i greu cymunedau mwy bywiog, cynaliadwy a gwydn. Mae gwir angen ymagwedd fel honno wrth gydnabod gormod o dwristiaeth yn fwyfwy, ynghyd â'r argyfwng hinsawdd parhaus.  Wrth i'r diwydiant twristaidd adfer mewn byd ôl-COVID, ceir cyfle i ail-lunio twristiaeth mewn modd mwy cynaliadwy sy'n adfywio'n fwy. Yr hyn sy'n dra hanfodol i'r genhadaeth hon yw cydweithredu'n barhaus ag asiantaethau sy'n cynllunio ac yn rheoli twristiaeth a'r ystod eang o randdeiliaid cyhoeddus, preifat a di-elw sy'n rhan o ddarparu twristiaeth.

CLimate change UNSDG
Nod Cynaliadwy y CU - Bywyd ar y Tir
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
Eicon dyfodol cynaliadwy