Defnyddio algâu i lanhau allyriadau diwydiant

Rydym yn glanhau allyriadau diwydiant

Emily Preedy Banner welsh

Yr Her

Mae Carbon Deuocsid (CO2) a nwyon gwastraff eraill yn cyfrannu at Olion Troed diwydiannol lleol a byd-eang sy’n cael effaith uniongyrchol ar newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng hinsawdd sy’n esblygu.

Yr Dull

Mae Dr Preedy yn gweithio yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ac mae’n rhan o’r prosiect Lleihau Allyriadau Carbon (RICE). Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio carbon deuocsid gwastraff i helpu i dyfu algâu i gael gwared ar fygdarth gwastraff o ddiwydiannau lleol.

I fynd i’r afael â’r allyriadau, bydd Dr Preedy a’i chyd-ymchwilwyr yn RICE, yn dylunio, yn adeiladu, ac yn defnyddio Bio-burfa Integredig.

Bydd y Bio-burfa’n defnyddio microalgâu (a dyfir ac a gylchredir trwy diwbiau tal a gedwir mewn fframiau) i fwyta nitradau, ffosffadau a COyng ngwastraff diwydiannol, domestig ac amaethyddol er mwyn cynhyrchu cynhyrchion defnyddiol o werth uchel.

Gall coed a phlanhigion ddal COar gyfer ffotosynthesis a gall algâu ddefnyddio’r un broses gan feddu ar y gallu i ddal ac ailddefnyddio hyd at 1.8kg o COy cilogram o fio-màs algaidd.

Po fwya’r algâu y gellir eu tyfu, mwyaf y COy gellir ei gasglu o’r allyriadau gwastraff yn ogystal â’r cynhyrchion y gellir eu cynaeafu a’u cynhyrchu o ddeunyddiau’r planhigyn.

Mae’r Gweithrediad Lleihau Allyriadau Carbon Diwydiannol (RICE) wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. 

Algae in tubes
Algâu mewn tiwbiau profi
Algâu mewn tiwbiau profi
Algâu porffor mewn powlen

Yr Effaith

Prosesau gwyrddach a lleihau ôl troed Carbon

  • Gan mai sicrhau sero allyriadau carbon erbyn 2050 yw’r nod, mae tyfu microalgâu yn gam yn y cyfeiriad cywir tuag at leihau’r allyriadau sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer, h.y. 1.8kg o COy cilogram o fio-màs algaidd a chyflawni dyfodol glanach.

Cynhyrchion Gwerth Uchel

  • Mae pigmentau’n bresennol mewn microalgâu, megis cloroffyl sy’n gyffredin ymhlith pob planhigyn ond mae rhywogaethau penodol o algâu yn cynnwys pigmentau megis Ffycosyanin sy’n werth tua £72,000 y cilogram.
  • Mae algâu a gynaeafir hefyd yn llawn maetholion megis Omega-3 sydd, ar ôl iddo gael ei buro, yn gallu cael ei ddefnyddio i gynhyrchu ystod o faetholion ac atchwanegiadau.
  • Felly gallai cynhyrchu cynhyrchion gwerth uchel o'r fath fod yn gymhelliant i ddiwydiant, gan eu galluogi i adennill costau sefydlu cychwynnol ac elw o'u cynhyrchu.
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
CLimate change UNSDG
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
Logo, llun blodyn