Arloesi ym maes iechyd

Wrth inni barhau i fyw'n hirach, mae cynnal iechyd da ac ansawdd bywyd da yn cyflwyno heriau sylweddol i boblogaeth sy'n heneiddio. Mae systemau iechyd yn y DU, ac yn fyd-eang, o dan bwysau aruthrol. Mae hyn yn gofyn am ddulliau amlddisgyblaethol arloesol ar draws amrywiaeth o lwyfannau.

  • Mae ein gwaith o fewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff A-STEM yn archwilio sut mae ymarfer yn effeithio ar faterion iechyd bob dydd, fel Diabetes Math 1, ac effeithiau maeth ar berfformiad athletwyr. Rydym hefyd yn gweithio i wella prostheteg drwy ddadansoddi cerddediad a symudiadau defnyddwyr.
  • Mae prosiect ASTUTE 2020 ym Mhrifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â Calon Cardio-Technology Cyf wedi datblygu pwmp calon y gellir ei ddefnyddio i helpu'r rhai sydd â methiant cronig y galon.
  • Mae Canolfan Heneiddio Arloesol Prifysgol Abertawe wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol am ei gwaith ym maes gerontoleg gymdeithasol ac amgylcheddol. Nod y Ganolfan yw gwella lles ac ansawdd bywyd drwy ymchwil sy'n cynnwys canfyddiadau o heneiddio, amrywiaeth oedran yn y gweithle, ac agweddau tuag at dechnoleg.  
  • Bernir bod ein Hysgol Feddygaeth ar y brig yn y DU ar gyfer amgylchedd ymchwil ac yn ail ar gyfer ansawdd ymchwil yn gyffredinol.
  • Rydym hefyd yn canolbwyntio ar ddatblygu dulliau newydd i symleiddio prosesau diagnosis a gwella gofal i gleifion. Mae'r rhain yn cynnwys dyfeisiau micronodwydd ar gyfer cyflenwi cyffuriau a brechlynnau arbenigol "di-boen", ac ymchwil a allai, yn y dyfodol, arwain at brawf gwaed sy'n costio £30 i ddarganfod canser yr oesoffagws.

 

Sut mae ein hymchwil yn achub bywydau

Cysylltwch â ni am Ymchwil

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i gynnal ymchwil ar y cyd, i wireddu syniadau, i wella cynnyrch, ac i helpu i newid y byd.

01792 606060

Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn ni weithio gyda chi.

Ein partneriaid

Y Cyfadrannau

Dysgwch fwy am yr ymchwil sy'n cael ei wneud ym mhob un o'r cyfadrannau sy'n ymwneud ag Arloesi mewn Iechyd

Dysgwch fwy