Caru cynrhon

Rydyn ni’n newid y ffordd negyddol y mae pobl yn dirnad cynrhon

Maggots in front of child's face

Yr Her

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn troi eu trwynau wrth feddwl am therapi cynrhon ac mae'r stigma sy'n gysylltiedig â nhw yn atal pobl rhag elwa o'u defnydd therapiwtig. Ond, gallai cynrhon gradd glinigol droi wlser marwaidd yn glwyf iach a glân o fewn ychydig ddyddiau.

Y DULL

Mae'r Athro Yamni Nigam wedi ymroi i flynyddoedd o ymchwil i gynrhon meddyginiaethol, gan groesawu pob cyfle i chwalu'r stigma drwy annog cymunedau a sefydliadau i "Love a Maggot".

Yr Effaith

  • Mae ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe wedi canfod y gall cynrhon gynhyrchu eu cyfryngau gwrth-facterol eu hunain sy'n cael eu secretu i glwyf. Ar hyn o bryd, mae ymchwilwyr yn archwilio a oes gan un o'r cyfryngau hyn mewn secretiadau cynrhon y potensial i fod yn wrthfiotig newydd i'w ddefnyddio gyda heintiau eraill, nid dim ond clwyfau.
  • Mae cynrhon meddyginiaethol wedi serennu ar y sgrin fach drwy gyngor a roddwyd i dîm cynhyrchu drama Casualty mewn pennod oedd yn cynnwys cynrhon yn helpu i lanhau clwyfau claf. Roedd lledaenu'r neges am therapi cynrhon drwy raglen mor flaenllaw yn hwb enfawr i'r ymgyrch Caru Cynrhon.
  • Mae Dr Nigam wedi newid meddyliau llawer o bobl am ddefnyddio cynrhon at ddibenion meddyginiaethol.
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health