Rydym yn hwyluso ymchwil canser gyn-glinigol flaengar

Rydym yn hwyluso ymchwil canser cyn-glinigol o'r radd flaenaf

Facilitating cutting-edge pre-clinical cancer research

Yr Her

Erys trechu canser yn ganolog i ymdrechion ymchwil wyddonol.  Mae'r cyfle am gydweithio ffurfiol ymysg timau ymchwil, beth bynnag yr ymchwil, yn hynod brin. Er bod timau o Sefydliad Cenedlaethol Bioleg (NIB) Slofenia a Phrifysgol Abertawe wedi cydweithio'n anffurfiol i feithrin ymdrechion i weithredu ymchwil i ganser, mae angen prosiectau a ariennir yn briodol i gryfhau galluoedd ymchwil ac arloesi.   

Y Dull

Cafwyd cyfle am brosiect gefeillio - prosiect gefeillio CutCancer - a bydd tri sefydliad: Prifysgol Abertawe, Prifysgol Stockholm yn Sweden a Chanolfan Feddygol VU Amsterdam, yn yr Iseldiroedd, yn rhannu eu harbenigedd penodol a chyflenwol â NIB mewn prosiect Horizon Ewrop newydd dros dair blynedd ac sy'n werth €1,197,550, gan ddechrau ym mis Ionawr 2023.

Bydd CutCancer yn canolbwyntio ar rannu arbenigedd mewn dulliau profi o'r radd flaenaf i hyrwyddo ymchwil ffiniol ym maes ymchwil canser gyn-glinigol. Drwy ddarparu hyfforddiant, gweminarau, gweithdai, ysgolion haf a chyfnewid arfer gorau, mae'r prosiect yn gobeithio ehangu'r gallu ymchwil ac arloesi yn NIB.

Bydd cydweithio'n hwyluso’r gwaith o weithredu ymagweddau a dulliau arloesol ym maes ymchwil canser 3D. Cyflawnir hyn drwy drosglwyddo gwybodaeth, cyfnewid arferion da a chyfleoedd hyfforddiant i wyddonwyr.  Ar y cyfan, bydd y cydweithio'n gwella rhagoriaeth NIB yn sylweddol ar lefel ranbarthol a rhyngwladol, gan hyrwyddo ansawdd ymchwil ym mhob un o'r sefydliadau sy'n rhan o'r prosiect.

Yr Effaith

Bydd rhannu gwybodaeth ac isadeiledd drwy brosiect CutCancer yn chwalu ffiniau mewn ymchwil ar draws cymdeithasau ac yn hwyluso cymuned wyddonol fwy byd-eang. Y gobaith yw y bydd y partneriaethau a ddatblygir yn ystod y prosiect yn ddechrau perthynas gydweithio hirdymor rhwng yr holl brifysgolion sy'n rhan o'r prosiect, er mwyn gweithredu ymagweddau trawsnewidiol mewn ymchwil canser.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG 03
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe
SU Health Innovation Research Theme.