Yr Her
Gall nodwyddau hypodermig traddodiadol fod yn frawychus a brifo plant ac oedolion. Gan fod angen monitro lefelau glwcos gwaed cleifion â diabetes, gallai cydymffurfiaeth cleifion, a’u canlyniadau o ganlyniad, ddioddef. Yn ogystal, mae micronodwyddau’n cael eu datblygu ar gyfer cymwysiadau wrth ddarparu cyffuriau trawsgroenol a chlytiau brechiadau.
Mae micronodwyddau wedi cael eu datblygu ym mhedwar ban byd. Fodd bynnag, mae problemau megis y cyfaint sydd ar gael i gaenu cyffur i arwyneb micronodwydd yn ogystal â chael blaen sy’n ddigon miniog i dreiddio i'r croen yn parhau i fod yn heriol.
Y Dull
Mae'r Athro Owen Guy a thîm o ymchwilwyr sy’n gweithio gyda SPTS Technologies yng Nghasnewydd, yn datblygu micronodwyddau o silicon.
Yn gyffredinol, mae silicon yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant lled-dargludyddion ar gyfer dyfeisiau sy’n mynd i mewn i bopeth, o geir i ffonau clyfar.
Rydym ni’n defnyddio offer arbenigol gan SPTS Technologies i ysgythru ar haenau tenau er mwyn datgelu’r siafft a blaen peflog y micronodwyddau.
Dim ond 1mm o uchder a chyda diamedr o 0.2mm, mae gan y micronodwyddau flaen peflog miniog iawn a thwll main sy’n galluogi rhoi cyfaint mwy o’r cyffur gydag ychydig iawn o boen neu ddim poen o gwbl.
Mae’r prosiect wedi elwa ar gyllid gan yr ESPRC ac Innovate UK mewn cydweithrediad â diwydiant