Gorlifiant pathogenau ac ymlediad feirysau mewn adeg o newid byd-eang

Rydym ni’n atal ymyriadau meddygol diangen

Rydym ni’n atal ymyriadau meddygol diangen

Yr Her

Bob blwyddyn, ceir adroddiadau yn y newyddion ynghylch y pwysau y mae ein systemau gofal iechyd yn eu hwynebu - yn y DU ac yn fyd-eang. Mae pwysau’n deillio o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys poblogaeth sy’n heneiddio a chyflyrau cronig sy’n dod yn fwy cyffredin. Mae derbyn pobl i’r ysbyty yn gallu arwain at aros yn yr ysbyty am gyfnod hir, dod yn fwy bregus a cholli annibyniaeth, a risg o gael eich heintio yn yr ysbyty.

Y cwestiwn y mae Meddygon Teulu yn ei wynebu yw: Pryd yw’r amser gorau i anfon cleifion i’r ysbyty? Sut gallwn osgoi ychwanegu rhagor o bwysau a chymhlethdodau iechyd y gellir eu hosgoi at system sydd eisoes dan straen?

Mae llawer o feddygfeydd Meddygon Teulu ledled y DU wedi rhoi meddalwedd ar waith sy’n nodi cleifion sydd â risg uchel o gael eu derbyn ar frys i’r ysbyty, drwy amcangyfrif “sgôr risg” ar gyfer pob claf unigol, ar sail cael eu derbyn i’r ysbyty o’r blaen, cyflyrau isorweddol a meddyginiaeth. Mae’r ymyrraeth hon – sef haenu risg ragfynegol – yn galluogi Meddygon Teulu i nodi pobl a allai elwa ar ymyrraeth gynnar er mwyn eu hatal rhag cael eu derbyn i’r ysbyty heb ei gynllunio (ar frys).

Ar adeg yr oedd Llywodraeth Cymru i fod i roi meddalwedd haenu risg ragfynegol ar waith (PRISM) ledled pob meddygfa Meddyg Teulu yng Nghymru, enillodd yr Athro Snooks a’i thîm gyllid i gynnal prawf i werthuso gweithrediad y feddalwedd. Nod y prawf oedd canfod effaith yr ymyrraeth hon ar ofal cleifion, costau a deilliannau iechyd.

Y Dull

Drwy ddefnyddio Data Iechyd Dienw Diogel (Banc Data SAIL), cynhaliodd yr Athro Snooks a’i thîm brawf clinigol ledled 32 o feddygfeydd Meddygon Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, un o’r profion mwyaf i gael ei gynnal erioed yn y DU, gan gynnwys 230,000 o bobl wedi’u cofrestru â Meddyg Teulu a oedd yn cymryd rhan yn ardal y Bwrdd Iechyd.

Cyflawnwyd hyn drwy ddosrannu ar hap glystyrau o feddygfeydd Meddygon Teulu i wythnos y flwyddyn pan fyddent wedi derbyn y feddalwedd; Prawf “Stepped Wedge” yw hwn. Cafodd y data iechyd dienw, a’r deilliannau ansawdd bywyd hunangofnodedig ar gyfer yr unigolion wedi’u cofrestru â meddygfeydd Meddygon Teulu gwahanol ledled y bwrdd iechyd, eu monitro am y flwyddyn ddilynol er mwyn gweld yr effeithiau y byddai’r ymyrraeth yn eu cael ar  dderbyn i’r ysbyty, defnyddio gwasanaethau eraill, deilliannau iechyd a chostau.

Y Canlyniadau

Yn sgîl rhoi PRISM ar waith, bu cynnydd yn y defnydd o wasanaethau iechyd: cododd cyfraddau  derbyn i’r ysbyty ar frys  1%; cyfraddau presenoldeb mewn adran frys  3%, cyfraddau ymweliadau gan gleifion allanol  5%, cyfran y diwrnodau â chofnod o weithgarwch gan Feddyg Teulu  1% a’r amser yn yr ysbyty  3%. Cododd costau’r GIG fesul cyfranogwr  £76 y flwyddyn.

Welsh Predictive Risk Service

Yr Effaith

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gymryd saib ac wedyn stopio rhoi’r feddalwedd ar waith mewn meddygfeydd Meddygon Teulu yng Nghymru oherwydd comisiynu’r prawf PRISMATIC ac yna ei ganlyniadau. Ar hyn o bryd, dim ond 14% o feddygfeydd Meddygon Teulu yng Nghymru sy’n dweud bod cyfarpar haenu risg ragfynegol ar gael iddynt, o gymharu â 80% dros weddill y DU. Ar sail canlyniadau’r prawf, mae peidio â rhoi meddalwedd rhagfynegi risg ar waith yng Nghymru wedi osgoi tua 30,000 o dderbyniadau brys ychwanegol i ysbytai a 76,000 o ddiwrnodau ychwanegol yn yr ysbyty bob blwyddyn. Mae osgoi’r derbyniadau a chysylltiadau eraill wedi arbed tua £200 miliwn y flwyddyn yng Nghymru

Negeseuon Allweddol

Nid yw ymyraethau iechyd bob amser yn cael effaith yn unol â’r bwriad. Mae’n bwysig cynnal gwerthusiad cadarn o dechnolegau a thriniaethau newydd mewn profion pragmatig er mwyn deall effeithiau ymarferol. Gwnaeth gweithio’n agos gyda gwneuthurwyr polisi yng Nghymru alluogi tîm prawf PRISMATIC i sicrhau bod canfyddiadau wedi cael effaith yn y byd go-iawn ar unwaith ac yn yr achos hwn, mae polisi iechyd ym maes gofal sylfaenol yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf safonol.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe