Technegau deallusrwydd artiffisial i gynyddu effeithiolrwydd canfod canser

Rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i helpu i ganfod Canser

Image of cancer cells

Yr Her

Mae'r Athro Rees a'i dîm wrthi'n datblygu adnoddau diagnostig i symleiddio'r broses o ddatgelu canserau megis lewcemia lymffosytig acíwt  – sef y canser mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod – er mwyn cynnig profion rhatach a mwy sensitif, heb ddefnyddio bioddangosyddion drud. Gall datgelu celloedd canser i benderfynu a oes unrhyw afiechyd yn weddill fod yn arbennig o heriol ar ôl i'r claf gael cyfres o driniaethau. 

Y Dull

Mae technolegau delweddu wedi datblygu fel y gellir tynnu miloedd o luniau o gelloedd unigol fesul eiliad mewn samplau hylif a rhannau o feinwe fiolegol. Fodd bynnag, mae'r technegau angenrheidiol i ddadansoddi'r setiau data mawr hyn yn eu babandod ac mae gwaith ymchwil yn cael ei wneud i weld sut gellir defnyddio'r doreth o wybodaeth sy'n deillio o ddelweddu celloedd.

Fel rheol, er mwyn delweddu'r celloedd, cânt eu labelu â lliwiau fflworolau sy'n glynu wrth fannau o ddiddordeb biolegol penodol, e.e. niwclei a derbynyddion cellbilen sy'n gysylltiedig â defnyddio gronynnau. Mae'r bioddangosyddion hyn yn aml yn cymhlethu'r weithdrefn arbrofol, maent yn ddrud a gallant amharu ar y broses fiolegol yr ymchwilir iddi. Felly, mae'r tîm yn hyfforddi algorithmau â deallusrwydd artiffisial i adnabod mathau o gelloedd heb yr angen am y bioddangosyddion hyn, gan symleiddio'r arbrofion a sicrhau sensitifrwydd cywirach na'r hyn a gynigir gan bobl wrth nodi canlyniadau.

Cafodd y technegau deallusrwydd artiffisial eu datblygu ar y cyd â Dr Minh Doan, o GSK yn Philadelphia, a Dr Anne Carpenter, o Sefydliad Broad MIT a Harvard. Mae'r algorithmau hyn hefyd wedi cael eu defnyddio i ddarparu asesiad awtomataidd o ddiraddiad celloedd coch y gwaed mewn samplau sy'n cael eu storio at ddibenion trallwysiadau gwaed. Mae'r prawf yn gywirach ac yn gyflymach o lawer na'r broses flaenorol o ddefnyddio pobl i nodi canlyniadau. Roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys 12 o sefydliadau gwahanol o bedair gwlad wahanol.

Yr Effaith

Mae'r Athro Rees a'r tîm yn gweithio gyda Dr George Johnson yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe gan ddefnyddio'r algorithmau a ddatblygwyd i ddatgelu difrod i DNA mewn celloedd ar ôl iddynt ddod i gysylltiad â heriau cemegol neu ymbelydrol. Mae'r tîm yn gweithio gyda sawl cwmni i gadarnhau y gall hwn fod yn brawf safonol o wenwyndra genomig ar gyfer profi cyfansoddion newydd sy'n dod i'r farchnad.

THEMAU YMCHWIL PRIFYSGOL ABERTAWE
Digital Futures Swansea University Research Theme welsh
health innovation icon