Llunio Dyfodol Gofal Lymffoedema

Chwyldroi Gofal i'r Rhai sy'n Cael trafferth gyda Lymffoedema

A medical professional examining the legs of a patient

Gwella Canlyniadau i Gleifion a Lleihau'r Pwysau ar y GIG

Mae ymchwil dan arweiniad Dr Ioan Humphreys, arbenigwr mewn Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, yn helpu i drawsnewid y driniaeth ar gyfer lymffoedema ac oedema cronig – gan wella gofal cleifion, tra hefyd yn lleihau pwysau ar y GIG.

Beth yw lymffoedema?

Mae lymffoedema yn gyflwr hirdymor sy'n effeithio ar dros 200,000 o bobl yn y DU yn unig. Mae'n achosi chwyddo meinweoedd y corff, ac yn cynyddu'r risg o glwyfau, heintiau a llid yr isgroen; cyflwr bacterol cyffredin ond a allai fod yn ddifrifol, sy'n effeithio ar haenau dwfn y croen.

Gall y cymhlethdodau hyn arwain at ymweliadau nyrsio yn y gymuned dro ar ôl tro, a hyd yn oed driniaeth yn yr ysbyty; gall hyn effeithio'n sylweddol ar ansawdd bywyd cleifion, a rhoi pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau gofal iechyd.

Gwerthuso Arfer Presennol

Mae ymchwil Dr Humphreys yn canolbwyntio ar ei berthynas waith sydd wedi bodoli am 12 mlynedd gyda Rhwydwaith Clinigol Lymffoedema Cymru (LWCN); Rhwydwaith yng Nghymru dan arweiniad y GIG, sy'n cynnig asesiad, cyngor a thriniaeth i bobl sy'n byw gyda lymffoedema, a nifer o gyflyrau cronig cysylltiedig.

Mae ei waith yn seiliedig ar werthuso arferion presennol, ac fel arfer mae'n ymateb uniongyrchol i'r anhwylderau mwyaf cyffredin ac anghenion dybryd cleifion. Ar ôl gwerthuso gwasanaeth yn llawn, mae'n gwneud argymhellion ar gyfer gwella'r ddarpariaeth; mae hyn yn arwain at gostau is i'r GIG, gan fod llwybrau a phrosesau mwy effeithlon yn cael eu rhoi ar waith.

Fel rhan o'r gwaith hwn, gwerthusodd Dr Humphreys yn y lle cyntaf effaith economaidd y gwasanaethau lymffoedema cenedlaethol (gan arwain at arbedion amcangyfrifedig o dros £24 miliwn), ac yna trodd at ddulliau o fewn gofal cymunedol, gan gynnwys y ‘Rhaglen Addysg ar y Llawr’ (OGEP) a’r ‘Llwybr  Coes Wlyb ag Oedema Cronig’ (WLP); dwy fenter sydd wedi’u cynllunio i wella darpariaeth gwasanaethau ledled Cymru.

Dysgwch fwy am y Rhaglen Addysg ar y Llawr (OGEP) a’r Llwybr Coes Wlyb

Sefydlu Dull Mwy Cyson

Defnyddiodd yr LWCN ymchwil Dr Humphreys, a’r dystiolaeth a ddeilliodd o hynny, i gefnogi trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, a gyfrannodd £1.4 miliwn o fuddsoddiad wedyn i roi OGEP a’r mentrau eraill hyn ar waith ledled Cymru.

Mae'r buddsoddiad hwn wedi helpu i sefydlu dull mwy cyson o reoli lymffoedema ac oedema yng ngwasanaethau cymunedol ledled y wlad, gan ddangos y gall gwell addysg a rheolaeth wella canlyniadau i gleifion, tra'n lleihau eu dibyniaeth ar wasanaethau'r GIG. 

Dangosodd gwerthusiad OGEP y canlynol:

  • Gostyngiad o 53% yn nifer yr ymweliadau gan nyrsys ardal sydd eu hangen.
  • Lleihau'r ddibyniaeth ar ddeunyddiau gwisgo clwyfau, oherwydd gwell gofal a ddarperir gan y Llwybr Coes Wlyb, sydd wedi gostwng gwariant y GIG ar ddeunyddiau o'r fath 63%.

Gwella Gofal, Ledled y Wlad

Mae'r effaith bellach yn ymestyn y tu hwnt i Gymru:

  • Mae‘r Llwybr Coes Wlyb wedi'i gyflwyno yn sefydliadau'r GIG yn Lloegr.
  • Y bwrdd iechyd cyntaf yn yr Alban i lansio'r llwybr yn ffurfiol oedd GIG Tayside, ac mae nifer o fyrddau iechyd eraill yn yr Alban hefyd wedi mynegi diddordeb ynddo.
  • Mae'r Llwybr hefyd wedi'i gyfieithu i'r Almaeneg, ac fe'i defnyddir ar draws ei system ofal iechyd.

Ehangu'r Cwmpas

Yn dilyn llwyddiannau cychwynnol y bartneriaeth ag LWCN, mae gwaith Dr Humphreys wedi ymestyn tuag at fentrau newydd.

Mae hyn wedi’i seilio i raddau helaeth ar driniaeth lawfeddygol arbenigol ar gyfer lymffoedema, a ‘PROMs’; Mesuriadau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion. Mae PROMs yn holiaduron safonol sy'n casglu adborth ar iechyd cleifion, lefelau poen, symptomau, swyddogaeth gorfforol ac ansawdd bywyd cyffredinol, gyda'r nod o fesur y gwelliannau yn eu hiechyd ar ôl triniaeth, a defnyddio'r data hwn i wella gwasanaethau:

  • Mae Dr Humphreys wedi gwerthuso Anastomosis Lymffatig-wythiennol (LVA), triniaeth lawfeddygol arbenigol ar gyfer Lymffoedema. Drwy fonitro 150 o gleifion dros gyfnod o 24 mis, gwelwyd gostyngiadau yn nifer yr achosion llid yr isgroen sy'n dychwelyd ac yng nghostau gofal iechyd cyffredinol; mae hyn wedi helpu i gyfiawnhau buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau arbenigol ledled Cymru.

Mae ei waith hefyd wedi helpu i ddatblygu dau PROM newydd:

  • LYMPROM – canlyniad sy'n benodol i gyflwr, ac sy'n cefnogi'r rhai sydd â lymffoedema yn uniongyrchol. Mae hwn eisoes yn cael ei gyfieithu i'r Twrceg, ac mae diddordeb pellach o Loegr, Iwerddon, Sweden, Seland Newydd, UDA, Croatia, Awstralia a Chanada.
  • CELLUPROM – canlyniadau a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer y rhai sy'n dioddef o llid yr isgroen, ac sydd hefyd yn denu diddordeb o bob cwr o'r byd.
A world map showing where the research has been emdedded in healthcare services

Mae gwaith Dr Humphrey nid yn unig wedi helpu i chwyldroi gofal i'r rhai sy'n wynebu heriau gyda lymffoedema yng Nghymru, ond mae bellach yn ymestyn i ystod o gyflyrau cysylltiedig hefyd; mae ei argymhellion a'i offer yn helpu byrddau iechyd ledled y byd i gynnig gwell gofal i gleifion, am gost sy'n llawer is.