Ymchwil ac Arloesi 2026 - dathliad o gydweithrediadau a phartneriaethau
Y Neuadd Fawr, Campws y Bae: Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2026
Dod â chydweithwyr, partneriaid a chydweithredwyr newydd ac arfaethedig, a chyllidwyr ynghyd am brynhawn o ddathlu.
Bydd y digwyddiad yn arddangos ystod eang o weithgareddau cydweithredol ymchwil ac effaith y rhain ar raddfa leol, genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd dathliad Ymchwil ac Arloesi 2026 yn brynhawn o sesiynau rhyngweithiol, gweithdai a sgyrsiau gwib ar bedair thema - Un Blaned, Iechyd a Lles, Trawsnewidiad Diwydiannol a Lle, Cymdeithas a Diwylliant.
Bydd enillwyr ein gwobrau Ymchwil ac Arloesi 2026 yn cael eu cyflwyno fel rhan o'r rhaglen.