CANLYNIADAU REF 2021

Roeddem wedi cyflwyno gwaith y nifer mwyaf erioed o ymchwilwyr (578) i gael ei asesu gan REF2021, sy'n cynrychioli cynnydd o 56% o gymharu â'r 370 a gyflwynwyd yn 2014. Felly, rydym wrth ein bodd o weld ein bod wedi cynyddu ein cyfran gyffredinol o ymchwil sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol o 80% yn 2014 i 86% yn 2021. Mae hyn yn gymeradwyaeth wirioneddol o ymroddiad a gwaith caled cynifer o gyd-weithwyr ledled cymuned ein Prifysgol dros gyfnod y REF.

Uchafbwyntiau:

  • Cafodd 32% o'n hallbynnau sgôr o 4*/arwain y byd (cynnydd sylweddol o 21% yn 2014)
  • Ystyrir bod 91% o'n hamgylchedd ymchwil, ynghyd ag 86% o effaith ein hymchwil, yn arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol
  • Mae Meddygaeth a Gwyddor Bywyd yn parhau i gael ei ystyried ymhlith y pump uchaf yn gyffredinol yn y DU, ac yn 4ydd o ran y Proffesiynau Perthynol i Iechyd (Uned Asesu 3)
  • Mae Mathemateg yn gydradd 16eg yn y DU, ac yn gydradd gyntaf ar gyfer effaith, ac ystyrir bod 100% yn arwain y byd
  • Mae Daearyddiaeth yn yr 20fed safle yn y DU, ar ôl dringo 11 o safleoedd, ac ystyrir bod 90% o'r ymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
  • Ystyrir bod 100% o'n Hunedau Asesu yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol o ran effaith
  • Mae 50% o'r meysydd pwnc a gyflwynwyd gennym (9) ymhlith y 30 uchaf yn y DU ar gyfer Effaith yn eu priod ddisgyblaethau
  • Yn achos 10 Uned Asesu, ystyriwyd bod 100% o'r amgylchedd yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol, gan gynnwys Busnes a Rheolaeth, Ieithoedd Modern, a Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol.

Ewch i'r meysydd ymchwil o dan bob Uned Asesu isod i gael rhagoro o wybodaeth.

Ein Cyfadrannau

Mae ein tair cyfadran yn ardal odidog Bae Abertawe'n cynnig cyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf ar ddau gampws. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ein cyfadrannau ac effaith eu hymchwil.

myfyrwyr yn y llyfrgell

Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol

Mae Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn cwmpasu'r Celfyddydau a'r Dyniaethau, y Gyfraith a Rheolaeth.

myfyrwyr yn gweithio mewn labordy

Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Mae'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd yn cynnig cyrsiau mewn Meddygaeth, Seicoleg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Myfyrwyr yn gweithio yn ystod gweithdy peirianneg

Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Bydd y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn ganolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ymchwil ac addysgu.