Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

Rydym wrth ein bodd bod ein heffaith wedi cyflawni gradd o 100% o ran arwain y byd, sy'n amlygu bod mathemateg yn cael effaith wirioneddol a pharhaol ar fywyd beunyddiol. Mae ein cyfleusterau a’n hamgylchedd ymchwil wedi galluogi cyd-weithwyr i ymgysylltu’n rhyngwladol, gan ddyrchafu 100% o gyhoeddiadau'r adran i safon sy'n arwain y byd ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol.

Ein Gweledigaeth

Ein hethos yw canolbwyntio ar ymchwil fathemategol sylfaenol gyda phwyslais ar ddatblygu ffrydiau cymhwysol, ymchwil rhyngddisgyblaethol, a chydweithrediad â'r diwydiant, a hynny tra ein bod yn cynnal ac yn gwella cryfderau presennol mewn mathemateg bur.

Ein Hamgylchedd

Mae mathemateg yn gymuned ymchwil weithgar mewn amgylchedd bywiog sy'n galluogi ymchwil unigol a chydweithredol o ansawdd uchel ym maes mathemateg bur a chymhwysol. Mae'r Adran yn cynnwys 21 o aelodau staff academaidd parhaol. Mathemateg yw un o adrannau sefydlol y Brifysgol, a chafodd ei hadleoli'n ddiweddar i'r Ffowndri Gyfrifiadurol gwerth £32.5 miliwn a adeiladwyd yn bwrpasol ar gampws newydd y Bae, sy'n werth £420 miliwn.

Ein Hallbynnau

Mae gennym hanes cryf o ymchwil gydweithredol ddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Oddi ar 2014, mae 80% o'n hallbwn ymchwil wedi cynnwys cydweithredwr o'r tu allan i Abertawe, ac mae 70% yn deillio o gydweithrediad rhyngwladol. Mae ein dyfyniad maes-bwysedig yn 1.3, sy'n uwch na'r cyfartaledd yn y ddisgyblaeth. Mae 14.3% o'n cyhoeddiadau ymhlith y 10% uchaf o ran cyhoeddiadau a ddyfynnir yn fyd-eang, ac mae 18.4% o'r cyhoeddiadau yn y 10% uchaf ar gyfer cyfnodolion.

Ein Heffaith

Ochr yn ochr â meithrin gwaith rhyngddisgyblaethol, rydym yn hyrwyddo'r broses o nodi a dilyn llwybrau tuag at effaith posibl ymchwil. Eir ati i argymell cydweithredu y tu allan i'r byd academaidd, e.e. â diwydiant neu wneuthurwyr polisi, a hyrwyddir gweithgareddau allgymorth ac addysgu a arweinir gan ymchwil.

Ein Cymuned

Cwrdd â'r staff mathemateg a'r gymuned ôl-raddedig