Mathemateg

Cymuned yn gweithio gyda'i gilydd i wneud y byd yn lle gwell

Tu mewn i'r Ffowndri Gyfrifiadol

Mae Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe yn y Ffowndri Gyfrifiadol sy'n werth £32.5m ar Gampws y Bae. Mae'r cyfleuster hwn yn cynnig cyfleusterau addysgu ac ymchwil cyfoes o'r radd flaenaf, yn ogystal â mannau rhwydweithio ac ysbrydoli, a fydd o fudd i'n myfyrwyr mathemateg, ein staff a'n partneriaid diwydiannol.  

Bydd myfyrwyr yn elwa o weithio gyda staff academaidd sydd ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil, gan gynnwys algebra a thopoleg, dadansoddi stocastig a biomathemateg.