Ymchwil Ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth

Cyfarfod myfyriwr yn adeilad ILS2

Ein Cymuned Ymchwil Iechyd a Gwyddor Bywyd Arloesol

Mae ein cyfleusterau ymchwil yn rhan ganolog o lwyddiant yr Ysgol Feddygaeth. Rydym ar flaen y gad ym maes ymchwil feddygol ac yn y gwyddorau bywyd, gan helpu staff a myfyrwyr i feithrin perthnasoedd gwaith â staff a myfyrwyr mewn gwledydd tramor. Rydym yn arbennig o ymroddedig i annog syniadau newydd a meithrin talent.

Fel un o ganolfannau mwyaf blaenllaw’r DU ym maes ymchwil feddygol, rydym yn ymrwymedig i gyflawni ymchwil arloesol ym maes iechyd a’r gwyddorau bywyd sy'n perfformio'n dda o ran denu cyllid ymchwil o ffynonellau nodedig a myfyrwyr PhD ac Ymchwil o safon uchel. O lwyddiant REF2014, mae'r Ysgol Feddygaeth wedi cynnal ei safle ymysg y 5 uchaf yn y DU ar gyfer ansawdd ymchwil cyffredinol, gan barhau i gael ei hystyried yn un sy'n arwain y byd (REF2021).

Gwyddoniaeth Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS), MRes

Ein Rhaglen
Student using Microscope

Mae'r cwrs MRes mewn Gwyddoniaeth Ddadansoddol Gymhwysol (LCMS) yn gyfuniad unigryw o gyfranogiad yn y diwydiant a chynnwys cwrs a fydd yn eich galluogi i ennill cymhwyster sy’n berthnasol yn alwedigaethol ac yn helpu i'ch gwneud yn gyflogadwy iawn yn y DU a thramor.

Meysydd Ymchwil – Technolegau Meddygol

Gwybodeg Iechyd, MRes

Ein Rhaglen
Students in ILS2

Mae'r ddisgyblaeth hon, sy'n datblygu, yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o ddarpariaeth iechyd yn yr 21ain ganrif. Cynlluniwyd y cwrs MRes mewn Gwybodeg Iechyd ar gyfer pobl sydd â phrofiad o wybodeg iechyd ac sydd am gyfrannu at y maes drwy helpu i ddatblygu'r sylfaen wybodaeth.

Meysydd Ymchwil – Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth

Ein rhaglenni PhD / MD / MPhil / MSc drwy Ymchwil

Gwyddorau Biofeddygol
PhD Student giving a poster presentation

Mae ein rhaglenni PhD Gwyddoniaeth Fiofeddygol yn ymdrin â meysydd fel Canser a Genomeg; Microbau ac Imiwnedd; Nanomeddygaeth; a ffarmacoleg. Mae ein rhaglenni'n addas ar gyfer ymgeiswyr â chymwysterau da y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'r pynciau hyn ac sydd am weithio ar broblemau meddygol cymhleth sy'n cael effeithiau biolegol a chymdeithasol.

Meddygaeth Fferylliaeth Ffiseg Feddygol Gwyddor Data Iechyd Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd

Ymchwil Addysg y Proffesiynau Iechyd, DProf/MRes

Ein Rhaglen
Students being taught clinical skills

Mae ein rhaglenni PhD, MD, MPhil ac MSc drwy Ymchwil mewn Astudiaethau Meddygol a Gofal Iechyd yn seiliedig ar bedair thema allweddol: Biofarcwyr a Genynnau; Technolegau Meddygol; Microbau ac Imiwnedd; Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth. Mae ein rhaglen yn addas i ymgeiswyr cymwysedig y mae eu diddordebau ymchwil yn cyfateb i'r pynciau hyn ac sydd am weithio ar broblemau meddygol cymhleth sydd ag effeithiau biolegol a chymdeithasol.