Ymunwch â'n cymuned ymchwil ffyniannus o fyfyrwyr PhD ac MPhil
Mae'r Ysgol Reolaeth yn cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar ar gyfer ein cymuned ffyniannus o fyfyrwyr doethurol o bob cwr o'r byd.
Mae ein myfyrwyr PhD ac MPhil yn cydweithio'n agos â staff academaidd yr Ysgol, ac yn cael eu cefnogi ganddynt, a dim ond nhw a gaiff ddefnyddio ein hystafell ymchwil ôl-raddedig (PGR) ac mae cyfleusterau cegin ar gael iddynt hefyd.
Gwnewch gais am le ar gwrs gradd ymchwil ôl-raddedig
Cam 1: Dewiswch eich cwrs gradd ymchwil ôl-raddedig.
Cam 2: Paratowch gynnig ymchwil manwl, gan ddwyn eich syniadau ynghyd mewn ffordd drefnus. Mae canllawiau ar ysgrifennu cynnig ymchwil ar gael.
Efallai y byddwch hefyd am ystyried nodi goruchwyliwr posibl o'n rhestr o staff academaidd, y mae llawer ohonynt yn arweinwyr yn eu maes a gydnabyddir yn fyd-eang.
Noder: Rydym yn eich cynghori i gysylltu â ni cyn cyflwyno eich cais. Gallwn eich helpu i nodi goruchwylwyr priodol ac, os oes angen, gallwn weithio gyda chi i fireinio eich cynnig.
Cam 3: Gwnewch gais. Pan fyddwch wedi cwblhau eich cynnig ymchwil, gallwch wneud cais ar-lein.