Beth yw cynnig ymchwil?

Eich cynnig ymchwil yw'r rhan fwyaf pwysig o'ch cais am PhD. Crynodeb byr a chryno o'ch prosiect ymchwil arfaethedig yw'r cynnig. Defnyddir eich cynnig i asesu ansawdd a gwreiddioldeb eich syniad ymchwil, yn ogystal â'i ddichonoldeb cyffredinol fel prosiect PhD. Mae hefyd yn gyfle i'ch goruchwyliwr posibl asesu pa mor addas ydych ar gyfer astudiaeth PhD, ac a fyddech yn gallu cyfleu eich syniadau yn glir ac yn gryno.

Rydym wedi creu canllaw cryno i'ch helpu i ysgrifennu eich cynnig ymchwil. Mae'r cyngor hwn yn gyffredinol, ac mae'n bosibl y bydd angen ei addasu'n unol â'r fformat angenrheidiol ar gyfer eich maes pwnc.

Cofiwch y dylech gysylltu â goruchwyliwr posibl cyn cyflwyno eich cais terfynol am ymchwil – naill ai i'r Brifysgol neu i unrhyw gyrff cyllid perthnasol. Byddant yn helpu i sicrhau bod eich cynnig yn y fformat cywir ac yn ymdrin â'r holl bwyntiau hanfodol.