Rydym yn darparu dadansoddiad data i ymateb Cofid-19, i ysbytai a gwasanaethau i

Collide montage

Yr Her

Mae COVID-19 wedi newid y ffordd y mae pobl yn rhyngweithio â’i gilydd ac â’r gwasanaethau iechyd. Mae ar Lywodraeth Cymru angen arbenigedd amlddisgyblaethol i lywio polisi iechyd cyhoeddus datganoledig a all effeithio ar fywyd pobl o ddydd i ddydd am fisoedd, gan hefyd sicrhau nad yw gwasanaethau hanfodol megis ysbytai ac ambiwlansys yn cael eu llethu.

Y Dull

Bu’r Athro Biagio Lucini a’r Athro Mike Gravenor yn arwain tîm a ddarparodd senarios modelau mathemategol i Lywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaethau’r GIG o ran y modd y gallai COVID-19 effeithio ar ysbytai a gwasanaethau iechyd cysylltiedig. Trwy ddod ag epidemiolegwyr, modelwyr mathemategol, a pheirianwyr meddalwedd ymchwil uwchgyfrifiadura ynghyd; a thrwy weithio o ddydd i ddydd gyda chyd-weithwyr yn y GIG, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, roedd y tîm yn gallu darparu dadansoddiadau ymateb cyflym mewn argyfwng ar sawl cam heriol yn ystod y pandemig. 

Yr Effaith

Aeth Llywodraeth Cymru ati i ddefnyddio Model Abertawe i helpu i gynllunio ei hymateb i COVID-19 o fis Mai 2020 ymlaen, a hynny trwy Gell Cyngor Technegol Cymru, sy’n cydgysylltu cyngor gwyddonol a thechnegol i gefnogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru yn ystod argyfyngau.

Y canlyniad allweddol cyntaf oedd darparu rhybudd cynnar o’r potensial enfawr ar gyfer ail don yn ystod y gaeaf, a hynny trwy gynhyrchu ‘Achos Gwaethaf Rhesymol’, a ddefnyddiwyd gan Ysbytai’r GIG a’r Gwasanaeth Ambiwlans, a’i ddiweddaru. Ar lefel weithredol, mae modelau a chyngor Tîm Abertawe wedi cefnogi sefydliadau’r GIG i wneud rhagfynegiadau cywir mewn perthynas â gofal critigol a gofynion ysbytai o ran gwelyau. Trwy allu darparu rhagolygon cywir ac olrhain yr hyn a arsylwyd o gymharu â’r sefyllfa wirioneddol, roedd sefydliadau’n gallu cynnal staff clinigol eithriadol o flinedig, a rhoi gobaith iddynt ein bod yn agos at y brig, ac yna wedi mynd drosto. Heb os, mae’r hyder hwn wedi helpu unigolion a sefydliadau trwy un o’r cyfnodau mwyaf heriol y mae’r GIG wedi’i wynebu’n ddiweddar.

Yna, defnyddiwyd yr ymchwil i lywio’r ‘Cyfnod Atal Byr’ yng Nghymru ac i reoli’r feirws dros Nadolig 2020. Yn dilyn hynny, defnyddiwyd yr ymchwil hwn ar ôl mis Mawrth 2021 wrth gynllunio’r map ffordd allan o’r cyfyngiadau symud, wrth bennu dyddiadau Etholiadau’r Senedd yn 2021, wrth bennu effaith brechu ac ymddangosiad yr amrywiolyn Delta, ac wrth lacio’r rheolau ynysu yn Haf 2021.

Mae’r gwaith wedi parhau i lywio polisi yn dilyn ymddangosiad amrywiolion newydd, yn ogystal â rhaglenni pigiadau atgyfnerthu parhaus. 

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSDG Health
UNSDG Goal 9 Industry
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe