am ein ysgoloriaethau adrannol
Mae Adran Mathemateg Prifysgol Abertawe yn bwriadu cynnig gwobrau / ysgoloriaethau Mathemateg sy'n werth hyd at gyfanswm o £3000 i fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau prifysgol ym mis Medi 2021. Caiff y gwobrau eu dyfarnu ar sail arholiad cystadleuol, dwy awr a hanner . Dylai myfyrwyr allu sefyll yr arholiad yn eu hysgol neu goleg. Os hoffech chi gymryd yr arholiad, gwnewch Abertawe un o'ch dewisiadau ar eich ffurflen UCAS a byddwn yn cysylltu â chi am yr arholiad pan fyddwn wedi derbyn y ffurflen.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd yr arholiad ysgoloriaeth ddychwelyd y ffurflen gais: Maths Scholarship Application Form
Neu e-bostiwch: cosadmin@swansea.ac.uk
Gallwch hefyd lawrlwytho papurau arholiad blaenorol: 2016 a 2017.
Nodyn: Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig nifer o Fwrsariaethau Rhagoriaeth gwerth £3,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAA yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth) a £2,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAB yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth). Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-rhagoriaeth/
Ffion Davies o Goleg Castell-nedd, Enillydd Ysgoloriaeth 2019/202
Er imi fod ychydig yn nerfus wrth sefyll arholiad yr Ysgoloriaeth, ar ddiwedd yr arholiad roeddwn i’n dawel fy meddwl oherwydd roeddwn i wedi cael profiad o rywfaint o’r gwaith roeddwn i wedi bod yn canolbwyntio arno yn ystod fy mlwyddyn gyntaf. Rhoddodd y canlyniadau hwb i’m hyder ac roeddent yn sicr wedi helpu’r broses o bontio rhwng y coleg a bywyd y brifysgol. Roedd derbyn y fwrsariaeth yn fraint wirioneddol ac mae hi wedi bod o gymorth sylweddol yn ariannol gan wneud imi sylweddoli bod y gwaith caled yn talu’r pwyth yn ôl. Hoffwn i ddiolch i bawb yn Adran Fathemateg Prifysgol Abertawe am flwyddyn gyntaf anhygoel ac ni allaf aros i’r flwyddyn nesaf gychwyn.
Bailey Willmott o Goleg Merthyr Tudful
Bailey Willmott o Goleg Merthyr Tudful
Enillydd Ysgoloriaeth 2018/2019
“Gwnaeth ennill yr ysgoloriaeth Mathemateg roi hwb mawr i’m hyder, yn barod i ddechrau darlithoedd yn y Brifysgol. Mae hefyd wedi rhoi blas i mi ar y mathau o bynciau y byddem ni’n eu hastudio. Roedd yn destun balchder i gael cydnabyddiaeth gan y brifysgol, derbyn gwobr ariannol a dechrau fy mhrofiad yn Abertawe o ddifri!”