Uchafbwyntiau Ein Hymchwil

  • Ystyriwyd bod 58% o ansawdd ein hymchwil yn gyffredinol yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol
  • Cafodd 62% o'r allbynnau sgôr o 4*/3*, gyda 28% o'r rheiny'n arwain y byd, i fyny 21% oddi ar REF2014
  • Cafodd 75% o'n heffaith sgôr o 3*
  • Mae ein hincwm ymchwil wedi cynyddu o gyfanswm o £3.6 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2014 i dros £7.6 miliwn yn cael ei adrodd yn REF2021

Ein Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw darparu ymchwil o ansawdd uchel sy'n llywio ac yn mynd i'r afael â'r dyheadau a amlinellir mewn polisi ac agenda ddeddfwriaethol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan wneud gwahaniaeth cadarnhaol go iawn i bobl, cymunedau a chymdeithas.

Ein Hamgylchedd

Mae ein cymuned amlddisgyblaethol ffyniannus yn adlewyrchu amrywiaeth y disgyblaethau sy'n ymgysylltu ac yn cydweithredu i wella iechyd a llesiant. Ein nod yw llywio polisi byd-eang a galluogi amgylchedd cynaliadwy i feithrin y genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr. 

Ein Hallbynnau

Mae ein hallbynnau ymchwil yn cynhyrchu tystiolaeth newydd ar gyfer gofal canser, iechyd mamau a phlant, darpariaeth y gwasanaeth iechyd meddwl, economeg iechyd a rheoli meddyginiaethau.

Ein Heffaith

Rydym yn annog ac yn cefnogi ymchwilwyr i ymgysylltu â defnyddwyr a'r rhai sy'n elwa o gynllun ymchwil; rydym yn meithrin perthnasoedd agos trwy gynnwys y cyhoedd yn ystod y broses o gasglu data a'u dadansoddi, ac i sicrhau'r effaith fwyaf o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd yr ymchwil. Rydym yn ymgysylltu â'r llywodraeth a sefydliadau eraill trwy sesiynau briffio tystiolaeth a chyngor arbenigol i hwyluso cyfathrebu, gweithredu ac effaith. Ymhlith yr enghreifftiau y mae ein gwaith ar fwydo ar y fron (ymgysylltu ag UNICEF a Sefydliad Iechyd y Byd), ymchwil i wasanaethau iechyd meddwl (ymgysylltu ag Adran Iechyd Lloegr a Swyddfa Prif Nyrsys Cymru) ac arbenigedd mewn economeg a gwerthuso iechyd (SHUHB).

Ein Cymuned

Cwrdd â'r staff iechyd a gofal cymdeithasol a'r gymuned ôl-raddedig