Mae ein staff yn hyfforddi gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol ag ymagwedd ryngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol. Trwy ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang, ein nod yw gwella canlyniadau iechyd a lles ar gyfer pobl yng Nghymru ac yn fyd-eang. Mae ein myfyrwyr un elwa o’n safle ar flaen y gad o ran ymchwil, sydd yn ei dro’n llywio addysgu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol.

Staff yn ôl Disgyblaeth Pwnc

Staff Bydwreigiaeth

Bydwreigiaeth

Staff Gwyddor Barafeddygol

Gwyddor Barafeddygol

Staff Gwaith Cymdeithasol

Darlithydd Gwaith Cymdeithasol

Staff therapïau

therapïau

Y Tîm Gweithredol

Dirprwy Bennaeth yr Ysgol (Arloesi, Ymgysylltu a Datblygu Sefydliadol) yw’r Athro John Gammon. Mae ei bynciau arbenigol yn cynnwys llywodraethu yn y GIG ac ymarfer rheoli heintiau.

Dirprwy Bennaeth yr Ysgol (Dysgu ac Addysgu ac Ymarfer Proffesiynol) yw’r Athro Michelle Lee. Diddordebau Michelle yw: gordewdra, archwaeth ac ymddygiad bwyta. Ei ffocws ymchwil cyfredol yw rôl prosesau gwybyddol wrth reoli pwysau corff.

Cyfarwyddwr Academi Iechyd a Llesiant Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw Mrs Julia Pridmore. Mae ei diddordebau yn cynnwys gwella ansawdd, llywodraethu a diogelwch y claf.