Mae'r Ysgol Feddygaeth yn gyson ymysg y prifysgolion gorau yn y DU ac yn yr asesiad ymchwil diweddaraf cafodd ei rhoi ar y brig yn y DU am ei hamgylchedd ymchwil ac yn ail am ansawdd ymchwil, sy'n golygu ein bod yn cael effaith fyd-eang go iawn o ran gwella iechyd, cyfoeth a lles pobl yng Nghymru a ledled y byd. Mae ein staff yn mynd ag arloesiadau o'r fainc ymchwil i ochr y gwely ac yn ôl gan ymgysylltu ar lefel ryngbroffesiynol a rhyngddisgyblaethol i wella canlyniadau iechyd. Caiff profiad dysgu ac addysgu ein myfyrwyr ei lywio gan  arloesiadau ac ymchwil flaenllaw ein staff.

Staff yn ôl Disgyblaeth Pwnc