Y Cysylltiad Rhwng Clefyd Cardiofasgwlaidd A Diabetes Math 2
Clefyd cardiofasgwlaidd yw'r prif achos marwolaeth ymhlith pobl sy'n byw gyda diabetes math 2. Yn y DU, mae diabetes gan un o bob pedwar person sy'n cael ei dderbyn i'r ysbyty gyda thrawiad ar y galon, strôc neu fethiant y galon, ac mae'r cyflwr yn cyfrannu at dros 590 o drawiadau calon a 770 o strociau bob wythnos (Diabetes UK).
Mae gwella opsiynau triniaeth a chanlyniadau hirdymor ar gyfer y boblogaeth risg uchel hon wedi bod yn flaenoriaeth ymhlith ymchwilwyr a chlinigwyr ers amser hir.
Trawsnewid Gofal Ar Gyfer Cleifion Sydd  Risg Gardiofasgwlaidd Uwch
Mae ymchwil arloesol a arweiniwyd gan glinigwr diatebes, sef yr Athro Steve Bain ym Mhrifysgol Abertawe, wedi chwarae rhan ganolog wrth lywio sut mae diabetes math 2 yn cael ei reoli i gleifion sydd â risg gardiofasgwlaidd uwch.
Dros y degawd diwethaf, cynhaliwyd cyfres o dreialon clinigol, gan gefnogi datblygiad semaglutide, sef gwrthweithydd derbynnydd GLP-1 (dyma fath o feddyginiaeth sy'n dynwared yr hormon GLP-1 naturiol sy'n gyfrifol am reoli siwgr yn y gwaed, lleihau archwaeth ac arafu treulio bwyd).
Mae Semaglutide yn helpu'r corff i gynyddu cynhyrchiant inswlin pan fydd angen, gan leihau maint y glwcos a gynhyrchir gan yr afu, a thrwy hynny, leihau'r gyfradd treulio bwyd.
Drwy ymchwil y tîm a threialon rhyngwladol trylwyr, mae'r Athro Bain a'i dîm wedi helpu i ganfod diogelwch ac effeithiolrwydd semaglutide fel triniaeth i'w chwistrellu ac a gymerir drwy'r geg, ac mae hyn yn gam hanfodol wrth newid gofal.
Therapi Mwy Hyblyg
Mae tystiolaeth y treialon llwyddiannus hyn, sydd wedi'i chymeradwyo gan fyrddau ymgynghorol meddygol byd-eang, gan gynnwys Cymdeithas Diabetes America, y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Astudio Diabetes a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), wedi codi proffil semaglutide fel y therapi blaenaf yn ei faes, gan gynnig manteision dros driniaethau blaenorol.
Un o'r datblygiadau allweddol sy'n cefnogi mabwysiadu semaglutide yw datblygiad opsiynau triniaeth mwy hyblyg, gan gynnwys cymryd drwy'r geg. Mae hyn yn darparu ffordd ychwanegol o gymryd y feddyginiaeth, gan leihau'r pwysau ar glinigau diabetes ac annog cleifion y mae'n well ganddynt osgoi pigiadau i barhau i gymryd y feddyginiaeth.
Y Potensial Ar Gyfer Rheoli Pwysau Cronig
Mae'r cysylltiadau agos rhwng diabetes a gordewdra'n adnabyddus iawn a gordewdra yw'r ffactor risg uchaf ar gyfer datblygu diabetes math 2 (Diabetes UK); felly, nid yw'n syndod y gallai cyffur a ddatblygwyd i reoli diabetes math 2 hefyd gefnogi lleihau pwysau'n sylweddol. Felly, mae dwy fantais fawr iddo.
Mae semaglutide yn arafu'r gyfradd treulio bwyd, gan helpu unigolion i deimlo'n fwy llawn am hirach, sy'n gallu arwain at golli pwysau. Semaglutide yw'r feddyginiaeth weithredol a ddefnyddir mewn dogn uwch yn Wegovy, sef pigiad ar gyfer rheoli colli pwysau sydd wedi ymddangos mewn llawer o gyhoeddiadau.
Mae'r ffordd ychwanegol hon o ddefnyddio semaglutide wedi denu llawer o sylw gan y cyhoedd y tu hwnt i'w ddefnydd arloesol mewn gofal diabetig. Er bod risgiau adnabyddus gan bigiadau colli pwysau, yn benodol oherwydd costau uchel a diffyg rheoleiddio ar-lein, pan gânt eu rhagnodi dan arweiniad meddygol, maent yn hynod effeithiol i'r rhai hynny sydd â gordewdra cronig.
Fodd bynnag, mae nifer cyfyngedig iawn o bresgripsiynau dilys a 10 ohonynt yn unig sydd ar gael gan Fwrdd Iechyd Abertawe. Mae hyn wedi cyfrannu at gynnydd sylweddol mewn prynu'r cyffur ar-lein ar gost uchel a heb iddo gael ei reoleiddio – oddeutu 1.2 filiwn o bryniannau'n costio £300 y mis – gan greu her gofal iechyd gymhleth.
Mae'r pryniannau hyn sydd heb gael eu rheoleiddio'n codi pryderon ynghylch diogelwch cleifion ac mae hyn hefyd wedi cyfrannu at brinder byd-eang mewn semaglutide dros y blynyddoedd diwethaf (Diabetes UK), gan gyfyngu ar fynediad at y cyffur i'r rhai hynny y mae ei angen arnynt i leihau eu risg gardiofasgwlaidd. Ar yr un pryd, mae llwyddiant semaglutide yn amlygu pwysigrwydd rheoleiddio rhagnodi a sicrhau mynediad teg at y cyffur i sicrhau y gall cleifion elwa o fanteision y therapi arloesol hwn.
Effaith Hirdymor Ar Ofal Metabolaidd
Mae ymchwil yr Athro Bain wedi cael dylanwad uniongyrchol a hirdymor ar ymarfer clinigol a gofal cleifion, gan ymgorffori semaglutide mewn llwybrau trin diabetes yn fyd-eang a chan lywio a dylanwadu ar bolisïau rhagnodi ac ad-dalu'r DU. Mae hyn wedi helpu i sicrhau enw da Prifysgol Abertawe fel arweinydd o ran triniaeth diabetes a chardiofasgwlaidd arloesol.
Mae Prifysgol Abertawe, gyda'i chyfleusterau clinigol o safon fyd-eang sy'n denu partneriaid pwysig yn y diwydiant, yn galluogi clinigwyr ar draws y rhanbarth i gael mynediad cynnar at driniaethau cardiometabolaidd uwch, gan wella gofal cleifion ac atgyfnerthu enw da'r Brifysgol ar flaen y gad ym maes arloesi iechyd.
Mae gwaith yr Athro Bain yn enghraifft o sut mae'r ymchwil sy'n cael ei chynnal ym Mhrifysgol Abertawe'n cael effaith yn y byd go iawn. Mae cyflwyniad semaglutide i ymarfer clinigol yn gwella gofal a chanlyniadau i gleifion sy'n byw gyda diabetes math 2 a'r risg gardiofasgwlaidd gysylltiedig, wrth gefnogi systemau gofal iechyd ar yr un pryd. Mae wedi dylanwadu ar ganllawiau ac wedi atgyfnerthu'r broses o wneud penderfyniadau clinigol byd-eang ac mae'n arddangos sut gall ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang arwain at ofal a chanlyniadau iechyd gwell.