Yn y DU, mae tua 7,700 o fenywod yn cael diagnosis o ganser yr ofarïau bob blwyddyn, sy’n golygu mai hwn yw’r chweched canser mwyaf cyffredin mewn menywod (Cancer Research UK).
Os yw'n cael ei ddal yn gynnar, mae cyfradd goroesi o 95% (cam 1, Cancer Research UK), ond mae tua 70% o gleifion yn cael diagnosis ar gam datblygedig unwaith bydd y canser wedi ymledu, felly'n anoddach ei drin.
Mae'r oedi wrth gael diagnosis yn aml oherwydd bod symptomau amhenodol canser yr ofarïau’n gallu ymddangos fel cyflyrau eraill, megis IBS, gyda symptomau nodweddiadol yn cynnwys bola chwyddedig, poen yn yr abdomen, colli awydd bwyd a throethi amlach.
Rydym wrthi'n creu'r genhedlaeth nesaf o therapïau ar gyfer canserau'r ofarïau
Yr heriau sy'n wynebu triniaethau presennol
Mae canser yr ofarïau, fel canserau eraill, yn cael ei drin drwy gemotherapi ac, er ei fod yn lladd y celloedd canser, mae hefyd yn lladd celloedd iach y corff, gan arwain at sgîl-effeithiau gan gynnwys colli gwallt, cyfog, blinder a risg gynyddol o haint. Mae llawer o gleifion yn datblygu ymwrthedd i gemotherapi safonol dros amser, felly mae'n llawer mwy cymhleth rhoi triniaeth.
Datblygiad arloesol
Yn seiliedig ar ymchwil a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Abertawe, mae Viamab Therapeutics Ltd, cwmni deillio a arweinir gan Deya Gonzalez a Steve Conlan, wedi datblygu ffordd newydd o dargedu celloedd canser.
Enw'r dechnoleg y mae nhw'n ei datblygu yw Cyffur Gwrthgyrff Cyfunedig (ADC), un o'r chwyldroadau sy'n tyfu gyflymaf mewn triniaeth oncoleg. Mae'r gwrthgorff yn gweithredu fel olrheiniwr GPS, gan ddod o hyd i gelloedd a thiwmorau canser penodol, yn hytrach na thrin y corff cyfan gyda chemotherapi.
Mae ADC yn teithio drwy'r corff nes iddo ganfod y celloedd canser sy'n cario marciwr penodol. Unwaith bydd wedi dod o hyd iddo, mae'n cyflwyno cyffur pwerus yn uniongyrchol i'r gell ganser ac yn ei lladd.
Mae hyn yn gwneud triniaeth yn fwy manwl gywir, gall y celloedd canser gael eu lladd wrth ddiogelu celloedd iach y corff. Mae cydweithrediad o'r fath yn dangos sut gall ymchwil academaidd gael ei throsi'n dechnolegau sy'n cael effaith a wnaiff wahaniaeth yn y byd go iawn
Beth sy'n unigryw am ddatblygiad Viamab?
Er bod therapïau ADC penodol eisoes yn bodoli, mae'n nhw'n targedu Folate Receptor Alpha (FRα), protein a geir ar arwyneb rhai celloedd canser. Serch hynny, mae'r triniaethau hyn yn addas dim ond ar gyfer cleifion y mae eu tiwmorau'n cario lefelau uchel o'r marciwr, ac nid yw pob canser yr ofarïau'n gwneud hyn.
Serch hynny mae ADC Viamab Theraputics, yn targedu marciwr sy'n cael ei alw’n RAGE (Advanced Glycation End Products), sy'n bresennol mewn sawl canser gwahanol gan gynnwys hyd at 93% o ganserau yr ofarïau ymosodol.
Golyga hyn y gallai datblygiad Viamab Theraputics helpu i drin llawer mwy o gleifion na therapïau presennol a dargedwyd ac mae ganddo’r potensial i achub mwy o fywydau ledled y byd.
Gan fod y driniaeth hon yn cael ei datblygu ar gyfer canserau datblygedig a rhai sydd ag ymwrthedd i driniaeth, mae ganddi'r potensial i newid bywydau'n llythrennol. O ystyried bod canser yr ofarïau'n cael ei ddiagnosio ar gam hwyrach, mae nodi’r marciwr RAGE yn awgrymu y gallai'r driniaeth hon fod yn effeithiol hyd yn oed ar ôl i'r clefyd ymledu, gan helpu i fynd i'r afael ag un o'r prif heriau sy'n gysylltiedig â diagnosis o ganser yr ofarïau a'i drin.
Ble maen nhw o ran ei datblygu?
Nid yw'r driniaeth wedi cael ei phrofi ar gleifion eto, ond mae canlyniadau cyn-glinigol yn addawol. Dengys ymchwil fod ADC Viamab yn gallu canfod celloedd canser, mynd i mewn iddynt a’u lladd a lleihau tiwmorau, ac mae’n dangos proffil diogelwch cychwynnol calonogol.
A allai weithio ar gyfer canserau eraill?
Mae'r arwyddion cynnar i weld yn addawol. Dengys ymchwil fod RAGE yn bresennol mewn sawl canser ymosodol arall, gan gynnwys canser y coluddyn, yr ymennydd, y prostad a chanser y fron triphlyg-negyddol, sy'n golygu y gallai'r un dechnoleg ADC gael ei haddasu i drin mwy o ganserau.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Cyn y gellir rhoi'r driniaeth i gleifion, rhaid i Viamab gwblhau rhagor o brofion ac astudiaethau diogelwch i gael cymeradwyaeth reoleiddiol a dechrau ar dreialon dynol.
Mae Viamab wedi sicrhau diogelwch patent ar gyfer y dechnoleg, gan helpu i gefnogi datblygiad masnachol yn y dyfodol a chyfleoedd buddsoddi sydd eu hangen i gyllido ehangu'r gwaith ymchwil a datblygu er mwyn cynnal treialon clinigol.
Pam mae hyn yn chwyldroadol?
Mae gwaith Viamab Theraputics yn y maes hwn wedi cael cydnabyddiaeth genedlaethol a chafodd ei arddangos yn Uwchgynhadledd Buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu a Gwyddoniaeth Fyd-eang y DU yn y Gymdeithas Frenhinol ym mis Mehefin 2026.
Gallai eu gwaith ymchwil fod wedi datblygu ffordd o nodi a thrin marciwr sy'n ymddangos mewn mwy o gleifion canser na'r triniaethau presennol.
Byddai manteision hyn yn enfawr, a byddent yn cynnwys:
- Rhoi triniaeth benodol i lawer mwy o gleifion
- Lleihau sgîl-effeithiau gwanychol cemotherapi traddodiadol.
- Helpu cleifion nad yw eu canserau'n ymateb i therapïau presennol, neu sydd wedi cael diagnosis hwyrach
- Y potensial i gael ei addasu ar gyfer canserau ymosodol eraill
Beth bydd hyn yn ei olygu i driniaethau canser yn y dyfodol?
Gallai arloesi Viamab Therapeutics chwyldroi triniaeth oncoleg ledled y byd, gan achub miloedd o fywydau bob blwyddyn. Os bydd ar gael i gleifion, mae ganddo'r potensial i drawsnewid llwybrau triniaeth wrth leihau'r sgîl-effeithiau gwanychol. Hefyd, os gall y dechnoleg gael ei haddasu i dargedu canserau ymosodol eraill, gallai ei heffaith fod yn bellgyrhaeddol, gan newid triniaeth ganser yn sylfaenol a gwella canlyniadau i gleifion ledled y byd.