Gwella perfformiad athletwyr elît a phroffesiynol

Rydym ni’n gwella perfformiad athletwyr elît

Rydym ni’n gwella perfformiad athletwyr elît

Yr Her

Pan fydd athletwyr yn cystadlu ar lefel elît, gall mân amrywiadau wneud y gwahaniaeth rhwng ennill a cholli. I baratoi athletwyr i gystadlu, mae angen datblygu strategaethau ffisiolegol a seicolegol optimaidd. Er enghraifft, gall rhai o’r strategaethau hyn ganolbwyntio ar yr amser rhwng ymarferion cynhesu’r athletwyr a dechrau’r gystadleuaeth, neu hanner amser gyda chwaraeon tîm lle gall tymheredd y cyhyrau ostwng islaw’r lefelau optimaidd. Newid naturiol arall yw’r gostyngiad yn lefel testosteron athletwr drwy gydol y dydd sy’n gallu achosi iddo golli pŵer, nerth, cymhelliad a pherfformiad cyffredinol.

Er bod y newidiadau hyn yn fach, os gellir eu lleihau, eu dileu neu eu gwrthdroi, gall athletwyr elwa ar fanteision o ran perfformiad a fydd yn gwella eu canlyniadau mewn cystadlaethau.

Y Dull

Bu’r Athro Liam Kilduff a’i dîm o Brifysgol Abertawe’n gweithio gydag athletwyr a thimau chwaraeon proffesiynol ledled y byd gan archwilio ffyrdd o effeithio’n gadarnhaol ar berfformiad.

Drwy weithio gyda’r athletwyr a chan ddefnyddio cyfleusterau’r labordy chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, roedd y tîm yn gallu ymchwilio i strategaethau a’u profi er mwyn eu rhoi ar waith ar ddiwrnod cystadlu.

Canfu’r tîm y gall dulliau goddefol o gynnal tymheredd ac ymarfer corff yn y bore leddfu’r gostyngiadau yn nhymheredd y cyhyrau a lefelau testosteron, gan leihau’r amhariad ar berfformiad nes ymlaen.

Mae canfyddiadau wedi dangos bod ymarfer corff yn y bore’n gallu lleddfu’r gostyngiad beunyddiol o ran lefelau testosteron, gan atal perfformiad y prynhawn rhag dirywio. Ar sail hyn, mae’r tîm wedi cynnig awgrymiadau a phrotocolau i athletwyr elît eu dilyn er mwyn gwarchod perfformiad y prynhawn.

Yr Effaith

Mae mudiadau chwaraeon rhyngwladol wedi rhoi canfyddiadau ac awgrymiadau’r Athro Kilduff ar waith yn eu strategaethau paratoi ar gyfer diwrnodau cystadleuaeth. Drwy weithredu’r newidiadau hyn, llwyddwyd i wella perfformiad.

Mae’r Athro Kilduff, Dr Bezodis a’r Athro Claypole wedi datblygu eu hymchwil i gynnal tymheredd drwy wella’r dechnoleg sylfaenol a ddefnyddir mewn strategaethau goddefol i gynnal tymheredd. Datblygwyd nano-ddeunyddiau a micro-ddeunyddiau gweithredol uwch y gellir eu hargraffu argaenau hyblyg. Mae’r rhain wedi cael eu cynnwys mewn dillad pwrpasol ar gyfer athletwyr elît ac maent yn sicrhau dosbarthiad cyson o wres.

Mae’r newidiadau arloesol hyn wedi cael eu mabwysiadu gan athletwyr a thimau elît rhyngwladol mewn amrywiaeth o gystadlaethau, gan gynnwys:

  • Athletwyr elît y sled sgerbwd yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf am y 3 blynedd diwethaf
  • Athletwyr yng Ngemau’r Gymanwlad am y 3 blynedd diwethaf
  • Athletwyr Tîm PF wrth baratoi am Gemau Olympaidd Tokyo ac yng Ngemau Olympaidd Beijing
  • Timau Rygbi’r Undeb Rhyngwladol yng Nghwpan Rygbi’r Byd am y 3 blynedd diwethaf
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe