Rydyn ni’n datblygu dulliau profi diogelwch pwrpasol ar gyfer nanoddeunyddiau

Labordy gwyddonol ym Mhrifysgol Abertawe gyda myfyriwr mewn cot labordy gwyn a darlithydd mewn cot labordy glas.

Yr Her

Sut ydyn ni'n asesu diogelwch nanoddeunyddiau? Mae difrod DNA yn benodol yn bryder oherwydd gall arwain at ddatblygiad canser ac felly, mae asesu gallu niweidiol DNA i sylwedd yr ydym yn dod i gyswllt ag ef yn agwedd hanfodol ar asesiad diogelwch. Er bod profion diogelwch rheoliadol ar gyfer cemegolion wedi'u diffinio'n dda, nid ydynt bob amser yn briodol ar gyfer nanoddeuynyddiau. Mae hyn wedi bod yn rhwystr sylweddol i arloesi nanotechnoleg ledled y byd.

Y Dull

Mae'r Athro Shareen Doak a'i thîm wedi bod yn datblygu dulliau profi diogelwch wedi'u teilwra ar gyfer nanoddeunyddiau a modelau meinwe newydd, datblygedig nad ydynt yn anifeiliaid. Mae'r offer profi diogelwch gwell hyn bellach yn cael eu defnyddio mewn fframweithiau nano-reoleiddio rhyngwladol.

Yr Effaith

Mae’r ymchwil a gynhaliwyd gan Grŵp Tocsicoleg In Vitro Prifysgol Abertawe wedi bod yn ganolog wrth ddatblygu profion diogelwch safonol i hwyluso asesiad risg nanoddeunydd ar gyfer iechyd pobl.

Defnyddiwyd ein hymchwil mewn nifer o ddogfennau rheoleiddio rhyngwladol ledled y byd ar bolisi asesu risg i addasu'r fethodoleg profi difrod DNA fel ei bod yn briodol ar gyfer gwerthuso nanoddeunyddiau, gan gynnwys: y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), Asiantaeth Cemegau Ewrop (ECHA), Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), Cyngor Cydweithrediad Rheoleiddio'r Unol Daleithiau-Canada (RCC)Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Unol Daleithiau (EPA) ac Awdurdod Plaladdwyr a Meddyginiaethau Milfeddygol Awstralia.

Mae hyn wedi amddiffyn y diwydiant nanotechnoleg trwy gynhyrchu proses asesu diogelwch gywirach.

Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe