Ydy archfarchnadoedd yn dda i'ch iechyd?

Rydym ni’n archwilio a yw archfarchnadoedd yn effeithio ar ymddygiad bwyta

Supermarket aisle

Yr Her

Ydy hygyrchedd archfarchnadoedd yn newid dietau'r rhai sy'n mewn maestrefi dinesig tlotach a oedd â llai o fynediad at ffrwythau a llysiau o'r blaen? Ydy dietau'n gwella oherwydd agosrwydd archfarchnadoedd mawr â'u dewis ehangach o fwydydd?

Y Dull

Cynhaliodd Dr Simon Rudkin o'r Ysgol Reolaeth yr ymchwil hon gan gasglu amrywiaeth o ddata drwy ddulliau gan gynnwys holiaduron. O ganlyniad, crëwyd llun o incwm aelwyd, statws cyflogaeth a mynediad at gerbyd modur. 

 

Yr Effaith

Canfu Dr Rudkin nad oedd effaith yr archfarchnadoedd yn newid ymddygiad bwyta'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg; mewn gwirionedd, o ganlyniad i ddewis mwy helaeth, roedd y rhai ag arferion bwyta iach yn bwyta rhagor o ffrwythau a llysiau, tra roedd y rhai â diet gwael yn bwyta rhagor o eitemau afiach. 

Gwrthbrofwyd honiad yr archfarchnadoedd y byddent yn meithrin arferion bwyta iach gan yr ymchwil hon.  Roedd pobl yn bwyta mwy o ganlyniad i'r prisiau is a gynigiwyd gan archfarchnadoedd ond nid bwyd iach yn achos y rhai â diet gwael. Meddai Dr Rudkin: "Rhoddir caniatâd cynllunio i archfarchnadoedd ar y sail y byddan nhw'n gwella iechyd.  Mae'r ymchwil hon yn datgelu na chafodd y budd hon ei gyflawni mewn gwirionedd, ac y byddai angen mabwysiadu ymagwedd fwy cyfannol, gan ystyried amrywiaeth o ffactorau, i bennu buddion iechyd archfarchnadoedd."

 

someone in store
Text ReadsNodau datblygu cynaliadwy y cenhedloedd unedig
UNSG - Health
Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe