Rydym yn byw mewn oes ddigidol lle mae technoleg yn newid, yn tarfu, ac yn gweddnewid yn gyson. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn defnyddio technoleg ddigidol ar draws pob disgyblaeth gan gynnwys y gyfraith, iechyd, gwyddoniaeth, peirianneg, y celfyddydau a'r dyniaethau, i ddadansoddi'r gorffennol a dylanwadu ar y dyfodol.

Rydym wedi:

  • Derbyn cyllid i fod yn rhan o 16 Canolfan newydd ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Deallusrwydd Artiffisial, rhan o fuddsoddiad gwerth £100 miliwn gan Ymchwil ac Arloesi y DU. Yma, bydd ymchwilwyr yn defnyddio technoleg AI i wella gofal iechyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, dadansoddi Data Mawr a chreu cyfleoedd masnachol newydd.
  • Cyfrannu at ymchwil mewn AI o ddarganfod tonnau disgyrchiant i ganfod canser y fron. Drwy ein dull gweithredu rhyngddisgyblaethol, gall Prifysgol Abertawe ddatblygu prosiectau ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cwmpasu ffiseg gronynnau sylfaenol a Seryddiaeth, y gwyddorau iechyd a chlinigol, a syniadau newydd mewn pynciau gwyddorau mathemategol, ffisegol a chyfrifiadurol.
  • Arwain y chwyldro technoleg gyfreithiol, gan edrych ar sut mae AI a thechnolegau eraill yn llywio dyfodol y proffesiwn cyfreithiol. Y Brifysgol oedd y cyntaf yn y DU i lansio rhaglen Meistr yn LegalTech, gan arfogi myfyrwyr â'r sgiliau i fod yn gyfreithwyr yn yr 21ain ganrif. Mae'r Brifysgol hefyd yn gartref i LegalTech Cymru, Canolfan ymchwil a datblygu'r sector Legaltech yng Nghymru.
  • Canolbwyntio ar feithrin syniadau digidol trawsnewidiol i wella a chefnogi bywydau unigolion. Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn gartref i ganolfan ymchwil amlddisgyblaethol, CHERISH-DE (Herio Amgylcheddau Dynol ac Effaith Ymchwil ar gyfer Economi Ddigidol Gynaliadwy ac Iach). Mae'n archwilio sut i gyflwyno arloesedd digidol sy'n helpu pobl i uniaethu â'n byd technolegol sy'n ehangu'n gyflym ac ymateb iddo, gan ganolbwyntio ar iechyd a gofal cymdeithasol, cymunedau sy'n gyfyngedig o ran adnoddau, treftadaeth, seiberddiogelwch a seiberderfysgaeth.

Sut mae ein hymchwil yn rhan o'n cod

Y Cyfadrannau

Dysgwch fwy am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ym mhob un o'r cyfadrannau sy'n ymwneud â Chyfiawnder a Chydraddoldeb

Cysylltwch â ni am Ymchwil

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i gynnal ymchwil ar y cyd, i wireddu syniadau, i wella cynnyrch, ac i helpu i newid y byd. 

01792 606060

Cysylltwch â'n tîm gwasanaethau arloesi, ymchwil ac ymgysylltu

Dysgwch fwy