Rydym yn gwella mynediad i gyfryngau digidol ar gyfer pobl â nam ar y synhwyrau

Rydym yn gwella mynediad i gyfryngau digidol ar gyfer defnyddwyr â nam ar y synhwyrau yng Nghymru

Yr her

Mae allgáu digidol yn her enfawr a wynebir gan ddefnyddwyr â nam ar eu synhwyrau yng Nghymru, ac mae trosglwyddiad digidol y teledu a'r broses ehangach o ddigideiddio gwasanaethau a gwybodaeth, fel ei gilydd, wedi cyflwyno risg o allgáu unigolion, ‘bylchau digidol’ ac erydiad hawliau cyfathrebu.

Mae pobl sy'n cael eu hallgáu'n ddigidol yn tueddu i fod yn gysylltiedig â nodweddion demograffig megis oedran, anabledd, statws economaidd, addysg, ac ati. Yn ôl Cymunedau Digidol Cymru, mae allgáu digidol yn tueddu i effeithio ar bobl sydd dros 65 oed, sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor, sydd â chyrhaeddiad addysg is, sydd â statws economaidd-gymdeithasol isel, sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, sy'n siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf, sy'n ynysig yn gymdeithasol, a/neu sy'n ddigartref. Mae'n llai amlwg yn aml y gallai'r nodweddion demograffig hyn fod yn rhyng-gysylltiedig. Mae rhai anableddau yn aml yn gysylltiedig ag oedran, a gallai llai o allu (megis nam ar y golwg) effeithio ar statws cyflogaeth ac economaidd-gymdeithasol yr unigolyn neu'r teulu.

Yn ôl yr Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB), mae dros ddwy filiwn o bobl yn byw â rhyw fath o nam ar eu golwg yn y DU, ac mae 107,000 o'r rheiny'n byw yng Nghymru (RNIB 2017). Er i gynnydd sylweddol gael ei wneud yn ddiweddar i ehangu mynediad at dechnolegau cyfathrebu yng Nghymru, mae data'n dangos bod defnyddwyr â nam ar eu golwg yn dal i fod dan anfantais wrth iddynt gyrchu gwybodaeth a gwasanaethau digidol.

Y Dull

Trwy gynnwys staff ym maes y cyfryngau a chyfathrebu a chyfrifiadureg, aeth Dr Yan Wu a'i thîm ati i gynnal archwiliad manwl o fynediad cymunedau â nam ar y synhwyrau at dechnoleg ddigidol, ynghyd â defnydd y cymunedau hynny o'r dechnoleg hon, gan ganolbwyntio ar fesurau ar gyfer lleihau bylchau mewn sgiliau digidol a'r heriau cyfredol sy'n gysylltiedig â hygyrchedd gwybodaeth, gwasanaethau, dyfeisiau, meddalwedd a rhaglenni.

Y tîm ymchwil Gwnaed yr holl waith ers 2011, a hynny mewn tri cham:

  1. Yng Ngham I o'r gwaith ymchwil sylfaenol, aeth Dr Wu ati i arwain tîm ymchwil rhyngddisgyblaethol a ariennid gan gonsortiwm, wrth iddo gynnal arolwg Cymru gyfan o ddefnydd cynulleidfaoedd trwm eu clyw o deledu digidol yn 2013. Datgelodd canlyniadau'r ymchwil hwn fod cynulleidfaoedd trwm eu clyw yn defnyddio teledu digidol mewn modd rhagweithiol ar gyfer gwybodaeth, addysg, adloniant a gwasanaethau, ond eu bod yn wynebu anawsterau o ran cyrchu isdeitlau o ansawdd a gwasanaethau wedi'u teilwra.
  2. Roedd Cam II o'r ymchwil sylfaenol (2016-2018) wedi'i seilio ar gydweithrediad agos ag RNIB Cymru, ac yn cynnwys arolwg manwl o aelodau RNIB Cymru, a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2017.
  3. Mae Cam III o'r ymchwil (2018 hyd 'nawr), mewn cydweithrediad parhaus â'r RNIB, wedi datblygu i fod yn astudiaeth hydredol o ddewisiadau defnyddwyr â nam ar y synhwyrau mewn perthynas â thechnoleg ddigidol newydd, ynghyd â'u defnydd o'r dechnoleg honno. Mae hyn wedi'i seilio ar gyfres o grwpiau ffocws sy'n cynnwys yr un cyfranogwyr i ddatblygu gwell dealltwriaeth seiliedig ar dystiolaeth o broblemau ac anghenion defnyddwyr â nam ar y synhwyrau wrth iddynt fynd i'r afael â thechnoleg ddigidol newydd, a'r modd y dylid wedyn ddatblygu gwasanaethau i'w cefnogi.

Hwyluswyd pob un o'r camau gan gyllid o nifer o ffynonellau. Yn benodol, cafodd Cam I, a oedd yn canolbwyntio ar ddiddordeb academaidd a diddordeb ymarferwyr yng ngoblygiadau'r broses trosglwyddo teledu digidol i bobl trwm eu clyw, ei ariannu gan raglen Pontio'r Bylchau Prifysgol Abertawe, Action on Hearing Loss, BBC Cymru, S4C a'r Coleg Cymraeg (2011-2015). Cafodd Camau II a III, a ehangodd y ffocws i ddiddordeb academaidd a diddordeb partneriaid yng ngoblygiadau datblygiadau ehangach technolegau digidol newydd i bobl sydd wedi colli golwg a defnyddwyr â nam ar y ddau synnwyr, eu hariannu gan yr EPSRC wedi'i gefnogi gan Herio Amgylcheddau Dynol ac Effeithiau Ymchwil ar gyfer Economi Ddigidol Gynaliadwy ac Iach (CHERISH-DE) (2018-2021). Ariennir y Cam cyfredol (2021 hyd 'nawr) gan Gronfa yr Angen Mwyaf Prifysgol Abertawe, a'r nod yw sicrhau newidiadau cadarnhaol i gymuned y staff a'r myfyrwyr â nam ar y synhwyrau trwy wella sgiliau a llythrennedd digidol yn dilyn y pandemig.

Roedd yr ymchwil hwn yn hyrwyddo ymchwil trawsbynciol ym maes y dyniaethau digidol ym Mhrifysgol Abertawe, ac mae'n adlewyrchu'r amrywiaeth gwirioneddol o ran rhywedd, hil ac ethnigrwydd yng nghymuned ymchwil y Brifysgol, ac yn hybu cenhadaeth ddinesig Prifysgol Abertawe o hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant. Roedd y portffolio prosiectau hefyd wedi creu amgylchedd ymchwil cadarnhaol i gefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.

Yr Effaith

Mae'r ymchwil wedi cael effaith ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r heriau hyn yng Nghymru gan gynrychiolwyr etholedig, darlledwyr, Action on Hearing Loss (Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar erbyn hyn), a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (yr RNIB).

Yn ogystal â'r cyhoeddiadau mewn cyfnodolion academaidd cyfrwng Saesneg a Tsieinëeg, roedd yr ymchwil wedi cynhyrchu set o adroddiadau a gafodd effeithiau cadarnhaol ar arferion y cyfryngau a pholisïau digideiddio yng Nghymru.

Cafodd adroddiad o’r enw Digital Television and Deaf/Hard of Hearing Audiences in Wales 2014 yn cael ei ystyried gan gyfranogwyr yr arolwg fel ymyrraeth amserol yn un o feysydd allgáu digidol sydd wedi cael ei esgeuluso gan y rhai sy'n llunio polisi ac ymgyrchwyr, a chafodd ei gyflwyno i Grŵp Hollbleidiol Cymru ar Faterion Pobl Fyddar. Cafodd argymhellion canlyniadol y grŵp o ran gwella'r gwasanaeth isdeitlo ar gyfer defnyddwyr â nam ar y synhwyrau eu mabwysiadu gan S4C, gyda'r nod o wella mynediad i bobl trwm eu clyw sy'n defnyddio'r teledu. Cafodd canfyddiadau eraill o'r astudiaeth, yn cynnwys sylw cynyddol gan y rheoleiddiwr a rhagor o ymyraethau arloesol a phwerus ar ffurf gofynion statudol, eu cymeradwyo gan y gwleidydd o Gymru, Ann Jones AC.

Datgelodd allbwn ail gam yr astudiaeth, sef adroddiad o'r enw Digital Media Usage of Sensory Impaired Users in Wales 2018, y modd y gallai allgáu digidol gael ei achosi gan amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys cyfyngiadau ariannol, mynediad i gyfleoedd hyfforddi, hygyrchedd y We, a chynllun y dechnoleg. Roedd argymhellion yr adroddiad ar gyfer gwell cynhwysiant digidol yn amlygu'r angen am hyfforddiant a chymorth parhaus, cymhwyso technolegau amgen, a glynu wrth y Safonau Prydeinig o ran protocolau hygyrchedd y We. Roedd yr RNIB o'r farn mai'r ymchwil hwn oedd y cyntaf o'i fath i gael ei gynnal yng Nghymru, a'i fod wedi ennyn diddordeb yn y mater y tu hwnt i Gymru. Mae'r ymchwil i heriau prosesau digideiddio ehangach wedi arwain at newidiadau ym mholisi RNIB Cymru o ran y modd y mae'n darparu gwasanaethau technoleg a sgiliau digidol ar gyfer pobl sydd wedi colli golwg. Er enghraifft, cafodd darn byr gan Wu yn ymwneud â ‘gorgyffwrdd’ ei gyhoeddi gan The Conversation yn ddiweddarach yn 2018. Cafodd hwn ei weld dros 4,500 o weithiau mewn gwledydd yn cynnwys yr Unol Daleithiau, Ffrainc, India, Canada, Ynysoedd Philippines, Singapôr, De Affrica a Malaysia, a chafodd ei ailbostio gan amryw o gyfryngau rhyngwladol.

Yn seiliedig ar ymchwil o Gam tri, cafodd adroddiad ar Ddiwrnod Golwg y Byd 2021 ei ryddhau yn y pen draw. Dywedodd Mr Gary Brunskill (Arweinydd Arbenigol RNIB mewn Technoleg Gynorthwyol a Chynhwysiant Digidol) fod y gwaith wedi “newid y ffordd y mae'r RNIB yn mynd i'r afael â'r mater yng Nghymru ac wedi galluogi i'n rhaglenni technoleg a sgiliau digidol gael eu cynllunio, eu llywio a'u teilwra'n well ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall”. Mae'r ymchwil wedi dylanwadu ar waith yr RNIB i ddatblygu ei Wobr a'i Ymgyrch Cynllunio ar gyfer Pawb. Nod hyn oedd ysbrydoli busnesau a dylunwyr i gynnwys egwyddorion dylunio mewn technoleg ddigidol newydd, a fydd yn rhoi ystyriaeth i bobl sydd wedi colli golwg. Cafodd canfyddiadau'r ymchwil hefyd eu cyflwyno yng nghyfarfod Strategaeth Cynhwysiant Golwg Cymru, yn ogystal ag i Fwrdd Rhaglen Cynhwysiant Digidol Llywodraeth Cymru. Mae'r adroddiad ymchwil hefyd wedi cael ei gynnwys yn llyfrgell adnoddau Llywodraeth Cymru fel y gall llunwyr polisi a chynllunwyr rhaglenni y dyfodol eu cyrchu, ac i lywio'r broses o gynllunio gwasanaethau ledled Cymru.

Cefnogi ein hymchwil

Rhowch rodd i helpu i gefnogi ymchwil arloesol

dynes mewn labordy
Text reads themau ymchwil prifysgol abertawe