y stori hyd yn hyn

Dechreuodd CHERISH yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2015. Ond mewn gwirionedd, mae wedi bod yng ngwythiennau Prifysgol Abertawe ers degawdau lawer. Yn Abertawe, ry'n ni'n dathlu ein canmlwyddiant  yn 2020 ac o'r dechrau un, ry'n ni wastad wedi ceisio gwneud pethau rhagorol gydag effaith ar y gymdeithas a'r economi. Felly ry'n ni'n dda iawn iawn am weithio ar draws disgyblaethau, gan dynnu pobl o'r celfyddydau a'r dyniaethau, meddygaeth, gofal cymdeithasol, peirianneg i mewn i weithio gyda ni ar broblemau anodd a phwysig.

Gan fod hynny yn ganolog i ni o'r cychwyn cyntaf, roedd cymaint o brofiad gyda ni a phan alwodd cynghorau ymchwil y DU am ganolfannau economi ddigidol, roedd modd i ni adeiladu ar y cefndir hwnnw, a dod ag amrywiaeth o bobl oedd yn credu'n angerddol mewn cael effaith a phwrpas gyda'u hymchwil, a gwnaethom gais am gyllid a arweiniodd at greu Canolfan Economi Ddigidol CHERISH.

Ry'n ni am werthfawrogi'r pethau bychain bob dydd – sut fywyd fydd gan fodau dynol yn y byd hwn yn y dyfodol. Un peth a fydd yn gwneud i'r wlad hon, y DU, sefyll allan yn rhyngwladol yw ei gallu i ddenu cymdeithas, i ddenu pobl, i ddenu dinasyddion i siapio'r dyfodol.

Mae sawl lle o gwmpas y byd sy'n arloesi mewn deallusrwydd artiffisial, data mawr, rhyngrwyd pethau. Mae hynny'n hollbwysig. Un o'r pethau y mae'r DU yn wych am ei wneud yw cyfuno'r galluoedd technegol hyn ag empathi rhwng pobl. Rydym wedi ffurfio perthynas wych gyda'r gymuned, gydag unigolion, a chyda rhanddeiliaid - cwmnïau bach a bach ledled y DU ac ar draws y byd. Ac mae gwir gyfle nawr i adeiladu ar ein perthynas â'r bobl hynny er mwyn ystyried safbwyntiau newydd am dechnoleg.

Dim ond o edrych ar y wasg, neu wylio'r teledu, fe welwch fod pobl yn dechrau pryderu am yr hyn y gallai data mawr a deallusrwydd artiffisial ei wneud, a'r hyn maent yn ei wneud nawr o ran hunaniaeth a phreifatrwydd. Felly, yn 18 mis olaf yr arian cychwynnol, byddwn ni'n hyrwyddo technoleg ddigidol sydd wedi'i llunio gan ddwylo, calonnau a lleisiau cymaint o bobl â phosibl.

A symud ymlaen, gobeithio, i gam nesaf Cherish, oherwydd dyw ein gwaith ddim wedi'i gwblhau eto, ac mae llawer mwy i'w gyflawni.

CHERISH-DE yn ôl rhifau

Cipolwg ar ffeithiau a ffigurau

Symudedd

Hanes CHERISH hyd yn hyn