YR HER

Mae gofal iechyd digidol yn anhygoel, gan gyfrannu'n sylweddol at les ac achub bywydau; fodd bynnag, mae ei gymhlethdodau hefyd yn golygu y gall fynd o chwith. Cafwyd enghreifftiau lle mae gofal iechyd digidol wedi achosi methiannau trychinebus.

Pan fo gofal iechyd digidol yn mynd o chwith, gall cleifion gael niwed. Yn anffodus, mae aelodau staff yn cael y bai'n annheg yn aml ac mae ymchwiliadau'n aml yn methu darganfod yr atebion cywir gan fod materion digidol yn gymhleth iawn.

Sut gallwn gael cydbwysedd sy'n ein galluogi i fanteisio ar fuddion technoleg ddigidol ym maes gofal iechyd yn ogystal â lleihau'r problemau a'r risgiau?

Y DULL

Mae'r Athro Harold Thimbleby'n uchel ei fri ym maes cyfrifiadureg, gan arbenigo mewn astudio systemau cyfrifiadurol rhyngweithiol. Bu'n dyst arbenigol mewn achos llys pwysig ar ôl i fwy na 70 o nyrsys wynebu camau disgyblu oherwydd honiadau o esgeuluster. Roedd pump ohonynt yn wynebu erlyniad troseddol, a allai fod wedi arwain at eu carcharu.

Nododd yr Athro Thimbleby fylchau yn y dystiolaeth gyfrifiadurol nad oeddent wedi'u hesbonio ac a brofodd yn gamarweiniol yn y pen draw. Roedd yr awgrym bod 70 o nyrsys wedi gwneud yr un gwallau'n union yn anghredadwy. Wrth i'r achos llys fynd rhagddo dros dair wythnos, darganfuwyd bod Prif Beiriannydd y cwmni a oedd yn gyfrifol am y system gyfrifiadurol wedi dileu'r data hollbwysig. Arweiniodd y datgeliad hwn at ryddhau'r nyrsys, a oedd wedi bod dan glo yn ystod yr achos.

Dyma un o lawer o straeon yn llyfr pwysig yr Athro Thimbleby — Fix IT: See and Solve the Problems of Digital Healthcare (OUP 2021).

YR EFFAITH

Enillodd llyfr yr Athro Thimbleby, Fix IT, Wobr Llyfr Gorau am Feddygaeth Gyffredinol Cymdeithas Feddygol Prydain, camp aruthrol o ystyried ei bwyslais ar bynciau digidol. Dywedodd y beirniaid y dylai pawb ym maes gofal iechyd ddarllen y llyfr.

Cydweithredodd yr Athro Thimbleby â'i wraig, Prue, i greu llyfryn cryno ar ffurf cylchgrawn, gan ailysgrifennu straeon llawn effaith llyfr Fix IT i fod yn fwy hygyrch i gynulleidfa ehangach. Cyhoeddwyd y llyfryn hwn, sef “Patient Safety — Stories for a Digital World”, yn 2024.

Mae'r llyfryn yn cynnwys dwy ran hollbwysig: mae un yn cynnig cyngor ymarferol i'r rhai hynny sy'n destun ymchwiliadau diogelwch ac achosion cyfreithiol posib; mae'r rhan arall yn amlinellu newidiadau hanfodol sy'n ofynnol er mwyn gwella diogelwch a dibynadwyedd mesurau rheoli a rheoliadau gofal iechyd digidol. Gellir lawrlwytho copïau am ddim yma: https://www.harold.thimbleby.net/booklet

Rhywbeth arall sy'n dangos effaith y gwaith hwn yw creu Gwobr Fix IT gan Goleg Brenhinol y Meddygon. Mae'r wobr uchel ei bri hon yn cydnabod cyfraniadau at ofal iechyd digidol sy'n gwella diogelwch cleifion neu les staff yn sylweddol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd a dylanwad mentrau fel llyfr yr Athro Thimbleby a'r llyfryn cysylltiedig.

Themâu ymchwil Prifysgol Abertawe